Shane Loughlin yn pledio'n euog i yfed a gyrru
Mae dyn 32 oed wedi pledio'n euog i yfed a gyrru a throseddau gyrru eraill yn Ystum Taf, Caerdydd yn gynnar fore Sadwrn.
Ymddangosodd Shane Loughlin yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun. Cafodd ei gais am fechnïaeth ei wrthod.
Ddiwedd Awst, fe ymddangosodd gerbron yr un llys ar gyhuddiadau gwahanol. Plediodd yn euog bryd hynny i ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus ac o yrru ar ôl cael ei wahardd.
Roedd y gwrandawiad ddiwedd Awst yn gysylltiedig ag ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A48 yn Llaneirwg, Caerdydd ar 4 Mawrth, pan fu farw tri o bobol.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd y troseddau hynny yn ymwneud â'r gwrthdrawiad angheuol hwnnw pan fu farw'r gyrrwr Rafel Jeanne a'r teithwyr Darcy Ross ac Eve Smith. Cafodd Shane Loughlin a Sophie Russon, 20, eu hanafu'n ddifrifol a'u cludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad hwnnw.
Roedd y cyhuddiadau yn erbyn Loughlin yn ymwneud a'r cyfnod rai oriau cyn y gwrthdrawiad ar draffordd yr M4 ar 3 Mawrth.
Bydd Shane Loughlin yn cael ei ddedfrydu ganol Medi mewn cyswllt â'r troseddau hynny.