Disgwyl ton boeth yng Nghymru dros y dyddiau nesaf
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud fod disgwyl ton o dymheredd poeth yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.
Mae tridiau o dywydd dros 25°C yn cyfri fel ton boeth (heatwave) ar draws y rhan fwyaf o Gymru, a 27°C yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd a Sir Fynwy, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Ar ôl mis Gorffennaf ac Awst glawog bydd tymheredd o hyd at 32°C yn bosibl mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig, medden nhw.
Mae disgwyl i dde Cymru hefyd brofi tymheredd dros 30°C o ganlyniad i wasgedd uchel.
Ond bydd rywfaint o wynt tua’r gorllewin yn gwneud i bethau deimlo’n oerach na hynny.
“Mae gwasgedd uchel dros dde-ddwyrain y DU, a fydd yn dod â thywydd mwy sefydlog gyda thymheredd ar gynnydd drwy gydol hanner cyntaf yr wythnos,” meddai Mark Sidaway o’r Swyddfa Dywydd.
“Mae disgwyl y tymheredd uchaf yn y de, ond fe fydd ton boeth ar draws rhannau helaeth o Gymru a Lloegr yn enwedig.”
Dywedodd y Swyddfa dywydd y gallai ddydd Mercher a Iau dorri'r record am y noson boethaf ym mis Medi.
Isafswn o 21°C dros nos yw’r record ar draws y DU ym mis Medi ar hyn o bryd.
Ond fe fydd pethau yn oeri unwaith eto dros y penwythnos, medden nhw.