Newyddion S4C

BAFTA Cymru: Actores yn ‘chwifio’r faner dros Drélai'

04/09/2023
Car ar dan

Mae actores o Gaerdydd sydd wedi derbyn un o brif anrhydeddau'r byd teledu yng Nghymru wedi sôn am ei balchder o'i gwreiddiau yn Nhrélai, er gwaethaf digwyddiadau treisgar diweddar yn yr ardal.

Rakie Ayola yw'r actores sydd wedi ei dewis i dderbyn Tlws Sîan Phillips BAFTA Cymru eleni.

Mae Gwobr Siân Phillips yn cael ei chyflwyno i berson Cymreig sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i deledu a/neu ffilm.

'Chwifio'r faner dros Drelái'

Dywedodd Ayola wrth asiantaeth newyddion PA fod ei gwreiddiau yn bwysig iawn iddi, gan ychwanegu: “Ni fydd yn rhaid i chi edrych yn bell iawn i weld y tro diwethaf i mi siarad am Drelái.

“Felly rydw i eisiau chwifio'r faner dros yr ardal honno o Gaerdydd oherwydd mae pobl dda yn byw yno a gall pethau ofnadwy ddigwydd i bobl dda a gall pethau rhyfeddol ddigwydd i bobl o Drelái.

“Alla’ i ddim meddwl am ffordd farddonol o ddweud hynny ond dwi jyst… mae’n bwysig iawn i mi fod pobl yn gwybod fy mod i’n dod o Drelái yng Nghaerdydd.”

Mae heddwas yn wynebu ymchwiliad troseddol am yrru’n beryglus ar ôl dilyn dau lanc ar gefn e-feic mewn fan cyn iddyn nhw farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái ar Mai 22.

Fe arweiniodd marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, at densiynau rhwng pobl leol a’r heddlu ac fe gafwyd terfysg a barodd sawl awr, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd dwsinau o swyddogion eu hanafu, difrodwyd eiddo a rhoddwyd ceir ar dân.

Fe fydd Ayola, a enillodd yr actores gefnogol orau yng ngwobrau BAFTA yn 2021 am ei rhan yn nrama BBC One, Anthony, yn cael ei hanrhydeddu yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2023 yn ICC Cymru yng Nghasnewydd ddydd Sul 15 Hydref.

Image
newyddion

Dywedodd am y wobr: "Mae wedi cymryd amser hir i mi brosesu'r newyddion yma. A dweud y gwir, dyw e dal ddim yn teimlo'n real. Diolch yn fawr iawn BAFTA Cymru am fy newis fel enillydd Gwobr Siân Phillips eleni.

"Mae gwaddol yn rhywbeth hanfodol bwysig i mi, felly mae’n anrhydedd enfawr i mi ymuno â’r rhestr o’r rhai sydd wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol, gyda'r gobaith y gallaf ddefnyddio’r platfform anhygoel hwn i annog a gweithio gydag eraill fydd, gobeithio yn ymuno â ni ar y rhestr yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.