Newyddion S4C

Gŵyl y Burning Man: Unigolyn wedi marw yn ystod glaw trwm

S4C

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i farwolaeth unigolyn yn ystod glaw trwm sydd wedi gadael miloedd yn sownd yng ngŵyl y Burning Man yn yr Unol Daleithiau.

Mae ffyrdd i mewn ac allan o’r digwyddiad yn anialwch Nevada wedi’u cau oherwydd llifogydd ac mae mynychwyr yr ŵyl wedi cael eu hannog i arbed bwyd a dŵr ac aros dan do. Nid oedd unrhyw doiledau yn gweithio ddydd Sul.

Dywedodd yr heddlu bod person wedi marw "yn ystod y glaw" ond does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd. Mae teulu'r unigolyn wedi cael gwybod.

Dywedodd Swyddfa Rheoli Tir yr Unol Daleithiau, yr asiantaeth sy’n rheoli’r tir lle mae’r ŵyl yn cael ei chynnal, mewn datganiad: “Mae glaw dros y 24 awr ddiwethaf wedi creu sefyllfa a oedd yn gofyn am beidio a symud cerbydau ar yr anialwch. 

"Mae disgwyl mwy o law dros y dyddiau nesaf a does dim disgwyl i'r amodau wella digon i ganiatáu i gerbydau fynd i mewn ac allan."

Dywedodd y Tŷ Gwyn ddydd Sul fod yr Arlywydd Joe Biden wedi cael gwybod am y sefyllfa.

Mae’r ŵyl blynyddol yn yr anialwch, tua 110 milltir i’r gogledd o Reno, yn denu bron i 80,000 o artistiaid ac cerddorion ar gyfer cymysgedd o wersylla gwyllt a pherfformiadau avant-garde.

Mae'r dathliad fel arfer yn dod i ben gyda llosgi delw 40 troedfedd, ond dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi gohirio hynny eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.