
Miloedd yn ymgynnull yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer Ironman
Wedi i filoedd o athletwyr gychwyn ar driathlon Ironman Wales yn Ninbych-y-pysgod, mae’r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol yn atgoffa'r cyhoedd i fod yn ymwybodol o'r ffyrdd sydd ar gau yn yr ardal.
Mae dros 2,000 o bobl yn cymryd rhan yn yr her eleni, gyda miloedd o gefnogwyr hefyd yn y dref.
Bydd yr athletwyr yn cychwyn yr her drwy nofio 2.4 milltir yn y môr ym Mae Caerfyrddin, cyn seiclo 112 milltir ar hyd ffyrdd Sir Benfro. Byddent yn gorffen yr her drwy redeg marathon, sef pellter o 26.2 milltir.
Gyda miloedd o athletwyr ac ymwelwyr yn yr ardal, mae Heddlu Dyfed-Powys yn atgoffa pobl i fod yn ymwybodol fod sawl ffordd ar gau yn ystod y digwyddiad.
Bydd ffyrdd ger yr arfordir ar gau yn ystod y dydd, ond fe fydd yr A477 a’r A40 ar agor drwy gydol y digwyddiad.

Teithio
Mae meysydd parcio yn Ninbych-y-pysgod bellach yn llawn.
Mae Cyngor Sir Benfro yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio o hyn ymlaen.
Mi fydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal o faes awyr Caeriw, gan gludo pobl i’r dref.
Mae’r cyngor hefyd yn atgoffa trigolion lleol y bydd gwasanaethau eraill ar gau yn ystod y dydd, gan gynnwys canolfan gwastraff ac ailgylchu Crane Cross.
⚠️ Reminder ⚠️
— PembrokeshireCC (@Pembrokeshire) September 3, 2023
Crane Cross Waste and Recycling Centre will be closed today due to IRONMAN Wales pic.twitter.com/fR0Ra7pLxf
Llun: Ironman Wales