Newyddion S4C

Darganfod corff dyn o Aberystwyth ar arfordir Ffrainc

31/08/2023
Steffan Rees

Mae chwaraewr rygbi o Aberystwyth oedd yn rhan o'r Llynges Frenhinol wedi’i ddarganfod yn farw yn Ffrainc.

Cafodd corff Steffan Rees ei ddarganfod ar arfordir Dinard yn Llydaw, meddai erlynydd lleol wrth asiantaeth newyddion yr AFP.

Mae'r heddlu'n  credu y gallai Mr Rees, oedd yn chwarae i dîm oedd yn aros mewn gwesty cyfagos ar gyfer cystadleuaeth World Defence Rugby, fod wedi marw wedi iddo'n gwympo'n ddamweiniol.

Dywedodd y Llynges Frenhinol eu bod yn gweithio gydag awdurdodau Ffrainc.

Dywedodd y Llynges mewn datganiad: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i deulu a’i ffrindiau.

“Rydym yn parhau i gynnig cymorth i awdurdodau Ffrainc gyda’u hymchwiliadau ac felly ni allwn wneud sylw pellach.”

Mae'r gystadleuaeth, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pencampwriaeth Rygbi Milwrol y Byd, yn dod â thimau milwrol o 12 o wledydd at ei gilydd.

Llun: Rygbi Llynges Frenhinol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.