Pêl-droed: Cip ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Bydd tri thîm yn chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn nhymor y Cymru Premier JD eleni wrth i dair gêm cael ei chwarae ddydd Sadwrn.
Bae Colwyn v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar Ffordd Llanelian bydd Bae Colwyn a Hwlffordd yn benderfynol o hawlio eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb.
Roedd hi wastad am fod yn gam anodd i Fae Colwyn o’r Cymru North JD i’r haen uchaf, ond teg dweud bod y cefnogwyr cyffredinol wedi disgwyl mwy gan y Gwylanod ers eu dyrchafiad.
Un pwynt ac un gôl sydd gan Fae Colwyn wedi eu pedair gêm agoriadol, ond fe wnaeth tîm Steve Evans amddiffyn yn daer yn erbyn y pencampwyr nos Fawrth (Bae 0-1 YSN).
Mae Hwlffordd hefyd wedi dechrau’n araf ar ôl perfformiadau arwrol yn Ewrop, ond bydd eu pwynt hwyr yn erbyn Y Barri nos Fawrth wedi bod yn hwb all ysgogi’r tîm i ddechrau dringo’r tabl.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ❌➖❌❌
Hwlffordd: ➖❌➖➖
Pontypridd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Pontypridd wedi codi i’r 7fed safle ar ôl sicrhau eu triphwynt cyntaf o’r tymor oddi cartref yn erbyn Aberystwyth nos Fawrth (Aber 0-1 Pont).
Dim ond dwy gôl sydd wedi ei sgorio ym mhedair gêm gynghrair Pontypridd y tymor hwn – sgorio un yn erbyn Aber, ildio un yn erbyn YSN a dwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Hwlffordd a Phen-y-bont, felly mae’r amddiffyn yn sicr yn gwneud eu swydd.
Mae’r Barri’n un o bum clwb sy’n dal heb ennill yn y gynghrair ac mi fydd Steve Jenkins yn hynod siomedig na chafodd ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr nos Fawrth gan bod ei dîm yn ennill 2-0 yn erbyn Hwlffordd tan i Ricky Watts sgorio ddwywaith wedi 90 munud i gipio pwynt i’r Adar Gleision.
Dyw’r timau yma heb gwrdd ers Hydref 2021 pan enillodd Y Barri 7-1 yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG gyda’r capten Kayne McLaggon yn sgorio hatric i’r Dreigiau.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖❌➖✅
Y Barri: ❌➖➖➖
Y Bala v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Bala a Pen-y-bont wedi dechrau’n gryf, yn hafal ar wyth pwynt wedi pedair gêm, ac wedi ildio dim ond un gôl yr un hyd yma.
Bydd hi’n brynhawn arwyddocaol i flaenwr Pen-y-bont, Chris Venables sy’n dychwelyd i wynebu ei gyn-glwb, ac i golwr newydd Y Bala, Kelland Absalom sydd wedi cadw pedairllechen lân mewn pum gêm ym mhob cystadleuaeth ers symud y ffordd arall.
Dyw Pen-y-bont heb golli gêm ddomestig oddi cartref ers dechrau mis Rhagfyr (Hwl 2-1 Pen), gan ildio dim ond pedair gôl mewn 11 gêm oddi cartref ers hynny.
Ond mae’r dair gêm ddiwethaf rhwng y clybiau wedi gorffen yn gyfartal, a dyw tîm Rhys Griffiths erioed wedi ennill oddi cartref ar Faes Tegid.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖✅➖
Pen-y-bont: ✅✅➖➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:35.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru