Annog cerddwyr i osgoi defnyddio llwybr ger Castell Conwy
Mae cerddwyr sy’n cerdded drwy fwa mewn wal ger Castell Conwy wedi cael eu hannog i ddefnyddio llwybr arall yn sgil ofnau am ddiogelwch.
Mae’r ardal rhwng maes parcio Morfa Bach yn ardal Gyffin a’r castell yng nghanol y dref yn un prysur yn ystod gwyliau’r haf pan mae twristiaid yn ymweld â'r dref ganoloesol.
Ond mae nifer o yrwyr sy’n teithio ar hyd Ffordd Llanrwst yn dweud eu bod wedi gweld nifer o achosion peryglus.
Nid oes palmant yn yr ardal, ond mae cerddwyr yn dal i ddefnyddio'r llwybr yn hytrach na chymryd y ffordd hirach o amgylch y castell.
Dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn annog pobl i ddefnyddio llwybr o dan y rheilffordd sydd gerllaw'r ffordd.
Arwyddion
Dywedodd un tad 47 oed sy'n byw yn Nyffryn Conwy, fod angen mwy o arwyddion i helpu cerddwyr.
“Pam nad oes arwyddion rhybudd ar y ffordd ger y bwa sy’n arwain at Gyffin, yn cynghori cerddwyr i beidio â mynd i fyny yno?" meddai.
“Mae angen arwyddion y ddwy ochr i’r arch a dweud y gwir, ar y ffordd i fyny o Gyffin a’r cyfeiriad arall.
“Rwyf wedi gweld ambell i achos o ddamweiniau agos yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, gan gynnwys un lle bu bron i ddynes â phram gael ei tharo.
“Dylai’r cyngor wneud mwy i gyfeirio pobol at dwnnel cerddwyr y maes parcio.”
Dywedodd un ymwelydd â'r ardal, David Jones, ei fod ef yn arfer cerdded drwy'r arch.
“Fe fyddai'n cymryd amser hir iawn i gerdded o gwmpas,” meddai.
“Gallaf weld y gallai fod yn beryglus gan na allwch chi bob amser weld cerddwyr pan fyddwch chi'n gyrru yn y tywyllwch.”
'Ffordd hawsaf'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy: “Rydym yn annog pobl i ddefnyddio’r llwybr diogel i Gonwy yn hytrach na defnyddio mynedfa ffordd y castell.
“Rydym wedi ychwanegu arwyddion ym maes parcio Morfa Bach – wrth yr allanfeydd a ger y peiriannau talu ac arddangos – i atgoffa cerddwyr mai’r ffordd hawsaf i gyrraedd Conwy ar droed yw drwy’r danffordd.
“Mae arwyddion ychwanegol i dwristiaid sy’n cyfeirio cerddwyr at safleoedd a lleoliadau penodol, trwy’r danffordd i gerddwyr.
“Nid yw’n bosib gwahardd cerddwyr rhag cerdded ar y ffordd, gan fod ganddyn nhw hawl gyfreithiol i wneud hynny
“Fodd bynnag, byddai’n well gennym pe baent yn defnyddio’r llwybrau cerddwyr mwy diogel.”