Corff dyn wedi'i ddarganfod mewn car o dan ddŵr ym Marina Abertawe
Mae corff dyn wedi ei ddarganfod mewn car a aeth i mewn i'r dŵr ym Marina Abertawe fore Mercher.
Daeth y cyhoeddiad gan Heddlu De Cymru wedi iddyn nhw gael eu galw i’r safle toc wedi 10.00 yn dilyn adroddiadau bod y cerbyd wedi mynd i’r dŵr ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Yn ôl yr heddlu, mae'r farwolaeth yn un 'anesboniadwy ar hyn o bryd'.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans: “Cafodd Heddlu De Cymru eu galw toc wedi 10.00 y bore yn dilyn adroddiad bod car wedi mynd i’r dŵr.
“Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol, a mi oedd y car o dan ddŵr yn gyfan gwbl. Cafodd corff dyn ei ddarganfod y tu mewn i’r car.
“Rydym yn trin ei farwolaeth yn anesboniadwy ar hyn o bryd ac mae ymholiadau yn parhau er mwyn canfod yr amgylchiadau yn llawn.
“Rydym yn parhau ar y safle wrth i’r gar cael ei godi oddi yno.”
Mae swyddogion yr heddlu a’r gwasanaethau brys yn bresennol ar y safle brynhawn Mercher.
Llun: John Davies/Creative Commons.