Newyddion S4C

Caerdydd ymysg y dinasoedd lle mae prinder tai i fyfyrwyr 'ar fin gwaethygu'

29/08/2023
Prifysgol

Mae prinder tai i fyfyrwyr prifysgol “ar fin gwaethygu” mewn rhai dinasoedd ar draws y DU, gan gynnwys Caerdydd, yn ôl un elusen.

Mae Martin Blakey, prif weithredwr yr elusen tai myfyrwyr Unipol, wedi dweud y bydd llawer o fyfyrwyr prifysgol yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i dai fforddiadwy eleni – ac mewn rhai achosion, “bydd y cyflenwad yn sychu i fyny”.

Daw ei sylwadau wrth i’r rhai sy’n gadael ysgol ar draws y DU baratoi i ddechrau yn y brifysgol ym mis Medi ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

Mewn blog ar gyfer melin drafod y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (Hepi), dywedodd Mr Blakey fod 13,543 o welyau newydd mewn llety myfyrwyr pwrpasol eleni, o gymharu â 29,048 yn 2020.

Ychwanegodd mai dim ond 9,000 o’r 13,543 o welyau sy’n “wirioneddol newydd” gan fod nifer o ystafelloedd yn dychwelyd i’r farchnad yn dilyn gwaith adnewyddu neu adeiladu.

Darpariaeth newydd

Mae disgwyl darlun tebyg yn 2024 ac mae’r elusen yn rhagweld cwtogi sylweddol mewn darpariaeth newydd yn 2025 a 2026.

“Oni bai bod adeiladu gwirioneddol ar hyn o bryd, mae adeiladu yn annhebygol o ddigwydd: mae datblygwyr yn cael trafferth cynnal hyfywedd oherwydd costau adeiladu ac ariannu,” rhybuddiodd Mr Blakey.

Mae’r blog ar wefan HEPI yn amlygu bod “prinder tai sylweddol” i fyfyrwyr yn Brighton, Bryste, Durham, Glasgow, Manceinion a Chaerefrog y llynedd.

Mae'r elusen hefyd yn rhagweld y bydd prinder tai myfyrwyr yng Nghaerdydd, Caerfaddon, Caergrawnt, Caeredin, Lincoln a Salford eleni.

Dywedodd Mr Blakey: “Mae’r rhain ar fin gwaethygu yn 2023. Yr eithriad posib yw Brighton lle gallai fod rhywfaint o leddfu’r galw, gan fod niferoedd myfyrwyr wedi gostwng.”

Mae'r blog yn ychwanegu mai'r prif sbardun ar gyfer y cynnydd yn y galw am lety yw myfyrwyr rhyngwladol - yn israddedigion ac yn ôl-raddedigion, ond yn bennaf ôl-raddedigion ar gyrsiau blwyddyn.

Mae’n awgrymu bod niferoedd sylweddol o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol wedi’i chael hi’n anodd dod o hyd i rywle priodol i fyw, ac mae llawer mewn llety dros dro sy’n “effeithio’n andwyol ar eu hastudiaethau”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.