Newyddion S4C

Oedi wrth hedfan o faes awyr - beth yw fy hawliau?

29/08/2023
Pixabay

Mae miloedd o deithiau awyrennau wedi’u gohirio o ganlyniad i broblemau gyda’r system rheoli traffig awyr, gyda rhybuddion y gallai’r aflonyddwch bara am ddyddiau.

Felly ble y dylai teithwyr droi am gymorth, a beth allant ddisgwyl i gwmnïau hedfan ei wneud?

– Beth yw’r rheolau sy’n llywodraethu sut y dylai cwmnïau hedfan helpu eu teithwyr?

Mae hawliau defnyddwyr mewn perthynas â hediadau o feysydd awyr y DU a’r UE yn cael eu gosod gan reolau o'r enw EC261, sy’n darparu mesurau diogelu pwysig i deithwyr sy’n gymwys.

Yn fras, dylai cwmnïau hedfan wneud popeth o fewn eu gallu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w teithwyr am y sefyllfa, gan ddarparu bwyd a llety iddynt wrth aros a gwneud eu gorau i’w cael i ben eu taith cyn gynted â phosibl.

– Rwyf wedi clywed bod y problemau presennol yn cael eu disgrifio fel ‘amgylchiadau anghyffredin’. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Er bod EC261 yn cynnig iawndal arian parod mewn rhai amgylchiadau, nid yw hyn yn berthnasol pan fydd canslo neu oedi hir oherwydd ‘amgylchiadau anghyffredin’ – neu’r rhai y tu hwnt i reolaeth y cwmni hedfan.

- Felly beth alla i ei ddisgwyl?

Mae gan gwmnïau hedfan ddyletswydd gofal i deithwyr sy'n wynebu oedi neu'n wynebu canslo waeth beth fo'r rheswm.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau hedfan ddarparu gwybodaeth i'w teithwyr am eu hawliau yn ogystal â gofal a chymorth, fel darparu prydau bwyd, caniatáu i deithwyr gyfathrebu negeseuon, a darparu llety gwesty - gan gynnwys teithio i'r gwesty ac oddi yno - ar gyfer oedi dros nos.

- Mae fy hediad wedi cael ei ohirio am oriau ac rwy'n eistedd yn y maes awyr. Beth ddylai'r cwmni hedfan fod yn ei wneud i'm helpu?

Waeth beth fo'r achos, mae gan deithwyr hawl i brydau bwyd ac, os oes angen, llety nes bod yr awyren yn gadael.

Mae’r pwynt y mae’n rhaid i gwmnïau hedfan gamu i mewn gyda chymorth yn dibynnu ar hyd y daith: dylai hyn fod ar ôl oedi o ddwy awr ar hediadau byr hyd at 1,500km, ar ôl tair awr ar gyfer hediadau rhwng 1,500km a 3,500km, a phedair awr oriau ar deithiau hirach.

– Beth yw fy opsiynau hedfan?

P'un a yw'r oedi yn cael ei achosi gan “amgylchiadau anghyffredin” ai peidio, rhaid i'r cwmni hedfan gludo teithwyr i ben eu taith cyn gynted â phosibl.

Mae Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA) yn cynghori pan fydd hediad yn cael ei ganslo, rhaid cynnig ad-daliad i deithwyr, dewis arall o deithiau hedfan ar y cyfle cyntaf, neu ailgyfeirio yn ddiweddarach, yn dibynu ar beth sydd ar gael.

Mae hyn yn golygu ailgyfeirio ar unrhyw gwmni hedfan, nid dim ond yr un y gwnaethoch archebu gyda nhw yn wreiddiol. Er enghraifft, os yw eich archeb gyda Ryanair, ond bod awyren BA, easyJet neu Wizz yn eich cael yn ôl yn gynharach, yna dylai Ryanair eich rhoi ar yr awyren honno.

Rhaid i gwmnïau hedfan helpu teithwyr trwy nodi'r opsiynau hyn yn glir iddynt.

Mae hefyd yn agored i gwmnïau hedfan gynnig cymhellion i deithwyr i'w hannog i hedfan yn ddiweddarach, er enghraifft trwy ddarparu talebau arian o werth uwch.

Os cewch eich hedfan i faes awyr gwahanol, rhaid i'r cwmni hedfan dalu costau teithio ymlaen hefyd, o fewn rheswm.

– Mae fy nghwmni hedfan wedi dweud wrthyf na all fy hedfan adref heddiw. Beth ddylwn i ei wneud?

Os oes angen i chi wneud eich trefniadau eich hun, dylai'r cwmni hedfan ad-dalu costau rhesymol. Dylech gadw copïau o bob derbynneb.

Mae hyn yn golygu archebu’r tocyn gwesty gwahanol rhataf posib – byddai ceisio manteisio ar y sefyllfa trwy archebu seddi dosbarth busnes a gwesty moethus yn annoeth gan y byddai angen i chi ddangos tystiolaeth mai dyma’r unig opsiynau sydd ar ôl.

– Mae fy oedi yn golygu bod yn rhaid i mi fethu mynd i'r gwaith. A oes gennyf hawl i gael fy nhalu os na allaf gyrraedd oherwydd yr aflonyddwch?

Dylai gweithwyr siarad â'u cyflogwr am weithio o ble maen nhw (os yw'n bosibl), cymryd gwyliau neu wneud amser i fyny yn ddiweddarach os na allant gyrraedd y gwaith oherwydd tarfu ar deithio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.