Yr oedi'n parhau i filoedd wedi trafferthion rhwydwaith rheoli traffig awyr
Mae miloedd o bobl yn dal i aros mewn meysydd awyr fore Mawrth yn sgil nam technegol ar systemau rheoli traffig awyr y DU ddydd Llun.
Cafodd y trafferthion technegol eu datrys ganol y prynhawn, ond mae'r oedi yn parhau am fod cannoedd o hediadau wedi eu canslo ddydd Llun.
Mae rhybuddion y gallai'r “oedi sylweddol” bara am rhai dyddiau.
Dywedodd Juliet Kennedy, cyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaethau Traffig Awyr (NATS) fod y mater yn golygu bod y system awtomatig sy’n rhoi manylion i reolwyr am bob awyren a’i llwybr wedi stopio gweithio.
“Er mwyn rheoli diogelwch, roedd yn rhaid i ni gyfyngu ar nifer yr hediadau y gallem eu rheoli.
“Fe weithiodd ein timau’n galed i ddatrys y broblem, ac rwy’n falch o ddweud iddo gael ei drwsio. Fodd bynnag, bydd yn cymryd peth amser i hediadau ddychwelyd i normal.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r cwmnïau hedfan a’r meysydd awyr i adfer y sefyllfa. Ein blaenoriaeth yw diogelwch a byddwn yn ymchwilio'n drylwyr iawn i'r hyn a ddigwyddodd."
Erbyn prynhawn ddydd Llun, roedd 232 o hediadau o'r Deyrnas Unedig wedi eu canslo yn ogystal â 271 o hediadau a oedd i fod i gyrraedd meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ystadegau gan gwmni Cirium.
Ar un o wyliau banc prysura'r flwyddyn, roedd y nam yn effeithio ar y gofod awyr uwchben y DU ac yn amharu ar hediadau o feysydd awyr y DU yn ogystal â hediadau i'r meysydd awyr hynny o wledydd eraill.
Cyhoeddodd NATS ar y pryd fod "cyfyngiadau wedi eu cyflwyno ar hedfan, er mwyn sicrhau diogelwch," cyn ymddiheuro am yr anghyfleustra.
Mae'r sefyllfa wedi amharu ar wyliau a threfniadau teithio nifer fawr o Gymry, yn eu plith Helen Prosser a Danny Grehan o Donyrefail, Rhondda Cynon Taf a geisiodd hedfan o Faes Awyr Gatwick i Croatia ddydd Llun.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y cwpl: "Wel 'da ni'n gobeithio cyrraedd Dubrovnik yn Croatia, ond ar ôl cyrraedd Gatwick gaethon ni gyngor i beidio ag aros a dweud y gwir.
"A nawr, ni'n ishte mewn gwesty sydd yn llawn dop.
"Felly does dim lle fan hyn, felly ni'n trïo gweithio mas beth i wneud dros nos nawr, nes bod ni'n cael gwybod gan BA os bydd hediad o gwbl," meddai Danny.