Dau berson wedi marw ar ôl gyrru car ar ffordd oedd dan ddŵr yn Lerpwl
Mae dau berson wedi marw ar ôl gyrru car i ardal oedd dan ddŵr o ganlyniad i lifogydd mewn ardal o Lerpwl.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod swyddogion wedi derbyn adroddiad o bryder am ddiogelwch dyn a dynes mewn Mercedes du ar Queens Drive yn Mossley Hill tua 21.20 ddydd Sadwrn.
Cafwyd hyd i ddyn a dynes yn y car ac aed â’r ddau i’r ysbyty, lle cyhoeddwyd eu bod wedi marw yn ddiweddarach.
Mae eu teulu agosaf wedi cael gwybod ac maent wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol, meddai’r heddlu.
Mae’r crwner wedi gofyn i Heddlu Glannau Mersi ymchwilio ymhellach i’r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mike Dalton: “Mae ein meddyliau’n mynd allan i deulu’r dyn a’r ddynes a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad trasig hwn, er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau o’r cyhoedd, ein swyddogion a Gwasanaethau Tân ac Achub Glannau Mersi.
“Rydym yng nghamau cynnar ymchwiliad parhaus ar Queens Drive i sefydlu amgylchiadau’r digwyddiad trasig hwn.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a oedd ar yn yr ardal ac a welodd y ddamwain, neu a stopiodd i geisio helpu neu unrhyw un sydd gyda unrhyw ffilm dashcam o'u car. i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl.
“Yn yr un modd, os ydych yn byw yn yr ardal a bod gennych unrhyw luniau cloch drws neu luniau teledu cylch cyfyng, rhannwch nhw gyda ni.”
Llun: PA