Cau ffordd er mwyn tanio dyfais ar draeth ym Môn
28/08/2023
Bu'n rhaid cau ffordd ar Ynys Môn am gyfnod ddydd Sul er mwyn tanio dyfais dan reolaeth, ar ôl i wrthrych gael ei ddarganfod ar draeth.
Cafodd swyddogion o'r Gwasanaeth Gwaredu Ordnans Ffrwydrol eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 yn Y Fali rhwng Ffordd Caergybi a Phenrhos.
Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau, gyda'r heddlu'n apelio ar y cyhoedd i gadw draw o'r ardal am gyfnod.
Yn ôl adroddiadau lleol, roedd modd clywed y ffrwydrad o gryn bellter.
Cafodd y ffordd ei hail-agor yn ddiweddarach.