Newyddion S4C

Rhagolwg rhanbarthau Cymru yn Rownd 5 Cwpan yr Enfys

S4C  Chwaraeon 04/06/2021
Pêl rygbi.
Pêl rygbi.

Y penwythnos yma, fe fydd rownd bumed y darbis gyda'r Gweilch yn ymweld â Galway i herio Connacht, tra bydd y Gleision Caerdydd yn croesawu'r Zebre i Barc yr Arfau Caerdydd. 

Dydd Gwener 4 Mehefin

Connacht v Gweilch - CG 6.00pm

Gyda’r Gweilch yn y pedwerydd safle yn nhabl Cwpan yr Enfys, mae dal cyfle iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol, ble fydden nhw’n herio tîm gorau De Affrica. Mae dal lot o rygbi i’w chwarae cyn hynny wrth gwrs, ac mi fydd rhaid iddyn nhw ennill eu dwy gêm olaf yn erbyn Connacht a Benetton, y tîm sydd ar y brig, i gael siawns o gyrraedd y ffeinal mewn ychydig dros bythefnos.

Mi fyddai clipiau o Gareth Anscombe yn cymryd rhan mewn ymarfer y tîm yn codi calonnau cefnogwyr y Gweilch. Ers ymuno â’r Ospreyliaid yn 2019, dyw’r maswr rhyngwladol dal heb gael y cyfle i wisgo crys y rhanbarth. Bydd y tymor hwn yn rhy gynnar i Anscombe, ond mi fyddai ei bresenoldeb ymysg olwyr y Gweilch yn hwb anferth ar gyfer y tymor nesaf.

Gyda’r Llewod yn ymgynnull wythnos nesaf i ymarfer ar gyfer y daith i Dde Affrica, ni fydd Alun Wyn Jones na Justin Tipuric yn chwarae eto i’r rhanbarth y tymor hwn. Ond, mi fydd dau chwaraewr profiadol arall, Rhys Webb a Stephen Myler, yn dychwelyd i’r tîm y penwythnos yma, i lywio chwarae’r Gweilch. Mae digon o brofiad yn y pac hefyd, gyda rheng flaen o Nicky Smith, Sam Parry a Tom Botha, ac Adam Beard a Bradley Davies yn cynnig eu cefnogaeth sylweddol yn yr ail reng.

Dydd Sadwrn 5 Mehefin

Gleision Caerdydd v Zebre – CG 7.35pm (yn fyw ar S4C

Beth bynnag y canlyniad, mae gemau diweddar Gleision Caerdydd wedi bod yn rhai hynod o adloniadol. Byddwch yn siŵr o weld cyd-chwarae slic, lot o ddadlwytho a digon o geisiau; yn anffodus i gefnogwyr y Gleision, mae’r ceisiau yn cael eu sgorio ar ddau ben y cae ar y funud. Er eu holl chwarae mentrus, colli oedd eu hanes draw ym Mharc Thomond benwythnos diwethaf, o 31 pwynt i 27. 

Bydden nhw’n benderfynol o dynhau eu hamddiffyn yn erbyn Zebre ddydd Sadwrn, gan anelu i gadw’r un lefel o ddwyster yn eu chwarae ymosodol. Un chwaraewr allweddol i’w dull o chwarae yw’r mewnwr Tomos Williams, a sgoriodd dwy gais yn Limerick benwythnos diwethaf ac sydd newydd arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth. Os all y pac sicrhau digon o bêl i Tomos a’i bartner Jarrod Evans nos Sadwrn, fe allai’r gêm fod yn un hir iawn i amddiffyn Zebre.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.