Newyddion S4C

Covid-19: Cymru yn symud i lefel rhybudd un

03/06/2021
Ffrindiau yn cwrdd

Mae Prif Weinidog wedi datgelu’r manylion yn llawn mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Gwener. 

Daw hyn ar ôl i Llywodraeth Cymru gyhoeddi fe fydd Cymru yn symud yn raddol i lefel rhybudd un o ddydd Llun, 7 Mehefin.

Bydd gemau pêl-droed a chyngherddau gyda hyd at 10,000 o bobl yn cael ail-ddechrau o ddydd Llun ymlaen. 

Bydd 30 o bobl hefyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored mewn gerddi preifat, a thair aelwyd yn cael ffurfio un aelwyd estynedig. 

Mae’r llywodraeth wedi cadarnhau mai proses “raddol” fydd hon, yn sgil “pryder cynyddol” am ledaeniad amrywiolyn Delta. 

Wrth gyflwyno’r newidiadau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd y newid graddol yn rhoi’r cyfle i’r cynllun frechu fynd ar waith. 

Mae’r gyfradd profion positif yng Nghymru yn llai na 1% ac mae 45% o bobl wedi’u brechu’n llawn. 

Ar hyn o bryd, chwe pherson o chwe aelwyd wahanol sy’n cael cwrdd yn yr awyr agored, yn wahanol i Loegr, lle mae 30 eisoes yn cael cyfarfod tu allan.

Nid yw cyngherddau a digwyddiadau chwaraeon yn cael croesawu torfeydd chwaith, oni bai ar gyfer digwyddiadau peilot y llywodraeth. 

Beth fydd yn newid o ddydd Llun, 7 Mehefin?

•    Bydd 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored ac mewn llefydd cyhoeddus. 

•    Bydd digwyddiadau fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon yn cael cymryd lle – ar gyfer 4,000 o bobl sy’n sefyll, a 10,000 o bobl yn eistedd. 

Ar gyfer cynnal digwyddiadau a gweithgareddau sylweddol, fe fydd yn rhaid i drefnwyr gynnal asesiad risg llawn a chyflwyno mesurau i atal lledaeniad Covid-19, gan gynnwys pellhau cymdeithasol. 

Er bod cyfraddau achosion o Covid-19 yn isel yng Nghymru, mae amrywiolyn Delta a ddeilliodd o India yn destun pryder i’r llywodraeth. 

Ar hyn o bryd mae 97 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy. 

Daeth galwadau nos Iau hefyd i bobl yn ardal Porthmadog yng Ngwynedd i gymryd prawf, wrth i ddau achos o’r amrywiolyn Delta ymddangos yn yr ardal.

Newidiadau pellach

Bydd yr ail gam ar gyfer symud i lefel rhybudd un yn digwydd yn ddiweddarach ym mis Mehefin, gyda’r llywodraeth yn ystyried newidiadau pellach yn ddibynnol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus. 

Ymhlith y newidiadau fydd yn cael eu hystyried bydd:

•    Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
•    Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau  wedi’u trefnu o dan do.
•    Agor canolfannau sglefrio iâ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.