Newyddion S4C

Rygbi: Undeb Rygbi Cymru i gyflwyno cystadleuaeth ddomestig newydd yn 2024

25/08/2023

Rygbi: Undeb Rygbi Cymru i gyflwyno cystadleuaeth ddomestig newydd yn 2024

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau y bydd Cystadleuaeth Ddomestig Elît lled-broffesiynol newydd, fydd un haen îs-law’r gêm ranbarthol, yn cael ei sefydlu yn nhymor 2024/25.

Daw hyn ar ôl ymgynghoriad trwyadl rhwng pob un o’r rhanddeiliaid perthnasol drwy Rygbi Cymru gyfan, meddai'r Undeb.

Fe wnaeth y cynllun cael ei gymeradwyo gan glybiau Uwch Gynghrair Indigo, Bwrdd Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, y Bwrdd Rygbi Proffesiynol a Bwrdd Cyfarwyddwyr URC. 

Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Bydd y cyfrifoldeb am y gystadleuaeth newydd hon y tu hwnt i reolaeth Cynghreiriau Cenedlaethol Admiral a'r bwriad yw sefydlu tir i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr proffesiynol yng Nghymru.

"Bydd y clybiau sy’n mynegi diddordeb mewn gwneud cais i gymryd rhan yn y gystadleuaeth newydd hon yn gallu gwneud cais i fynegi eu diddordeb i Undeb Rygbi Cymru ym mis Medi - gyda’r bwriad o gwblhau’r broses erbyn diwedd 2023.

"Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol fydd yn cael eu gosod gan Banel Adolygu Ceisiadau - fydd yn cynnwys un Cynrychiolydd o URC a dau Aelod Annibynnol fydd yn cael eu penodi gan URC.

"Bydd rhagor o wybodaeth am y meini prawf penodol a'r broses ymgeisio ehangach yn cael eu cyhoeddi maes o law."

Llwybr clir

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol URC, Geraint John bod creu'r cynghrair yn llunio "llwybr clir" i chwaraewyr a thimau yng Nghymru.

"Er mwyn creu y lefel mwyaf addas o gystadleuaeth, ‘rydym wedi creu cynllun ar gyfer rhwng 8-10 o dimau," meddai.

"Gobaith URC yw y bydd yr uchafswm o 10 o dimau’n cymryd rhan yn nhymor 2024/25 unwaith i’r clybiau gyrraedd y meini prawf a’r safonau disgwyliedig fydd ynghlwm â’r drwydded y bydd ei hangen er mwyn cael eu hystyried.

"Er mwyn sicrhau llwybr clir i ddatblygu perfformiad uchel ar draws pob rhan o Gymru, mae’n bwysig bod y clybiau gaiff eu dewis i gystadlu’n y pendraw yn chwarae eu rhan yn y datblygaid hwn o chwaraewyr.

Ychwanegodd Mr John: "Os bydd 10 clwb yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth newydd yn nhymor 2024/2025 bydd y ddau glwb â’r sgôr uchaf o'r broses ymgeisio ym mhob un o ranbarthau Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets yn cael cynnig trwydded i gymryd rhan yn y gystadleuaeth newydd.

"Yn ogystal, bydd un drwydded yn cael ei chynnig i un clwb o ranbarth Rygbi Gogledd Cymru o ganlyniad i bwysigrwydd strategol yr ardal honno.

Bydd unrhyw le sy'n weddill o fewn y cynghrair newydd yn cael ei gynnig i'r clwb sydd wedi cyflawni'r sgôr uchaf yn ystod y broses asesu, a hynny cyn belled eu bod yn cyrraedd gofynion y meini prawf.

Fe fydd y clybiau sydd yn chwarae yn y gynghrair yn sicrhau eu lle am bedwar tymor.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.