Ofgem yn gostwng y cap ar brisiau ynni
Mae’r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi cyhoeddi ei fod yn gostwng y cap ar brisiau ynni £150.
Daw wedi i gwymp ym mhrisiau cyfanwerthol nwy ostwng costau i gyflenwyr.
O Hydref 1 bydd y cap newydd yn golygu y bydd biliau cartrefi yn gostwng i tua £1,923 y flwyddyn.
Dyma'r tro cyntaf iddo syrthio dan £2,000 ers mis Ebrill y llynedd.
Mae hynny’n seiliedig ar ddefnydd cyfartalog o 2,900 kWh o drydan a 12,000 kWh o nwy.
Dywedodd prif weithredwr Ofgem Jonathan Brearley ei fod yn “newyddion da”.
“Ond rydw i’n gwybod bod pobl yn wynebu amser caled yn sgil yr argyfwng costau byw a dydw i ddim yn gallu cynnig unrhyw sicrwydd y bydd pethau’n gwella dros y gaeaf,” meddai.
Er bod y cap yn gostwng fe allai faint mae pobol yn ei dalu gynyddu am nad oes cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU fel ag yr oedd dros y gaeaf diwethaf.
Dywedodd David Cheadle, prif weithredwr y Money Advice Trust, ei fod yn “gyfnod pryderus iawn i bobol sy’n cael trafferth talu eu biliau ynni”.
“Bydd nifer o deuluoedd yn wynebu dewisiadau amhosib dros y gaeaf heb ragor o gefnogaeth,” meddai.