Streiciau rheilffyrdd: Disgwyl gwasanaethau cyfyngedig dros benwythnos gŵyl y banc
Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw ar bobl i gynllunio o flaen llaw cyn teithio ar y rheilffyrdd dros benwythnos gŵyl y banc wrth i nifer y gwasanaethau trên gael eu cyfyngu.
Cyhoeddodd Undeb RMT bod gweithwyr 16 o gwmnïau trenau gan gynnwys Great Western Railway sy'n gwasanaethu de Cymru ac Avanti sy'n gwasanaethu'r gogledd yn streicio ddydd Sadwrn.
Nid yw staff Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu diwydiannol ond bydd nifer o'u gwasanaethau yn cael eu heffeithio.
Dywedodd y cwmni bod disgwyl i nifer o'u gwasanaethau fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd "wedi'i chwtogi'n sylweddol".
Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau ar 26 Awst, 1 medi a 2 Medi.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw ar deithwyr i wirio'r amserlen yn gyson ar y diwrnodau hyn rhag ofn bod newidiadau.
Dydd Sadwrn 26 Awst a Dydd Sadwrn 2 Medi
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y "bydd ein gwasanaethau yn hynod o brysur".
Oherwydd tarfu sy’n effeithio ar weithredwyr trenau eraill, bydd rhai gwasanaethau TrC yn brysurach nag arfer a bydd tarfu ar y gwasanaethau canlynol:
Gwasanaethau yn gynnar yn y bore (cyn 07:00) a gwasanaethau gyda’r nos (ar ôl 19:00):*
- Bydd gwasanaethau Cheltenham/Caerloyw yn dechrau ac yn gorffen yn Lydney.
- Bydd gwasanaethau Birmingham yn dechrau ac yn dod i ben yn Birmingham New Street ac ni fyddant yn galw yn Wolverhampton na Birmingham International.
- Arfordir Gogledd Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghaer. (Dim gwasanaeth rhwng Caer - Manceinion).
- De Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn dod i ben yn Nantwich. (Dim gwasanaethau rwng Nantwich - Crewe - Manceinion Piccadilly).
- Ni fydd y gwasanaethau rhwng Liverpool Lime Street a Chaer yn rhedeg.
*bras amseroedd
Gwasanaethau sydd yn cael eu heffeithio trwy’r dydd:
- Bydd trenau o Dde Cymru i Fanceinion Piccadilly yn dechrau yn Stockport yn unig (oherwydd pryderon gorlenwi) ac ni fyddant yn galw yn Wilmslow.
- Bydd trenau Manceinion Piccadilly i Dde Cymru ond yn codi cwsmeriaid yn Stockport (oherwydd pryderon gorlenwi) a ddim yn galw yn Wilmslow.
- Arfordir Gogledd Cymru - Ni fydd trenau Manceinion Piccadilly yn galw yn Manchester Oxford Road a Warrington Bank Quay.
Dydd Gwener 1 Medi
Mae disgwyl i wasanaethau fod yn hynod o brysur eto ar 1 Medi yn ogystal.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaethau yn rhedeg yn ôl yr amserlen arferol ond bydd y llwybrau canlynol yn brysurach nag arfer:
- Caerdydd - Caerloyw - Cheltenham
- Caerdydd - Amwythig - Manceinion
- Caerfyrddin - Cyffordd Twnnel Hafren
- Caergybi - Manceinion Piccadilly
- Amwythig - Birmingham International
- Amwythig - Caer - Caergybi