Newyddion S4C

Tai yn llai fforddiadwy yng Nghymru er bod prisiau wedi syrthio medd banc

23/08/2023
Cyfartaledd prisiau tai dros £200,000

Mae tai yng Nghymru yn llai fforddiadwy nag oedden nhw'r llynedd er bod y prisiau wedi syrthio, yn ôl un banc.

Dywedodd Halifax bod cyfraddau morgais uwch yn golygu ei bod yn anoddach fforddio tŷ yng Nghymru eleni nag oedd hi'r llynedd.

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi syrthio 4% ar gyfartaledd ers mis Medi'r llynedd.

Ond mae morgeisi bellach yn costio 36% o incwm person yng Nghymru ar gyfartaledd, o’i gymharu â 28% y llynedd.

Cymru hefyd oedd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig lle’r oedd y gwahaniaeth rhwng incwm a phrisiau tai wedi cynyddu, o dai yn costio 6.7 maint incwm unigolion ar gyfartaledd i 6.8.

Dywedodd Kim Kinnaird, cyfarwyddwr morgeisi Halifax: “Mae taliadau morgeisi wedi cynyddu tua 1/5 mewn blwyddyn, a fyddai yn naid fawr ar unrhyw adeg, ond yn enwedig felly yn ystod gwasgfa ariannol costau byw.

“Roedd y 15 mlynedd flaenorol wedi gweld cyfraddau llog isel iawn yn hanesyddol.”

Ond dywedodd na fyddai prisiau tai yn syrthio’n gyflym eto fel y digwyddodd yn 2008.

“Mae banciau yn cynnal profion llawer llymach o ba mor fforddiadwy yw morgeisi er mwyn sicrhau bod benthycwyr yn gallu eu talu nhw pan mae cyfraddau yn codi,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.