Annog trigolion Porthmadog i gymryd prawf Covid-19
Mae awdurdodau iechyd wedi annog trigolion yn ardal Porthmadog sy'n datblygu unrhyw symptomau Covid-19 i gymryd prawf cyn gynted â phosib.
Daw hyn yn sgil pryderon am achosion o amrywiolyn Delta o fewn ffiniau'r dref.
O'r 14 achos positif yn yr ardal, mae dau o'r rheini wedi eu cadarnhau i fod yn amrywiolyn Delta.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod staff Profi, Olrhain a Diogelu lleol yn cynghori'r 14 person sydd wedi profi'n bositif, ynghyd ag oddeutu 200 o gysylltiadau eraill.
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Cadeirydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Covid-19 Aml-Asiantaeth Gwynedd:
“Mae’r ffaith bod dau achos yn ardal Porthmadog wedi’u cadarnhau fel amrywiolyn Delta o’r haint yn destun pryder. Rydym yn aros am ganlyniadau profion i weld a yw'r 12 achos Covid-19 pellach yr un amrywiad, ac mae pob un ohonynt yn gysylltiedig.
“Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw Covid-19 wedi diflannu a’i bod cyn bwysiced ag erioed fod pobl leol ac ymwelwyr â’r ardal yn dilyn y rheolau i gadw eu hunain, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach yn ddiogel.
“Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy'n datblygu unrhyw symptomau Covid-19 i gael prawf ar unwaith."
Mae modd i bobl fynd am brawf Covid-19 yn yr uned brofi symudol ym maes parcio Llyn Bach, Porthmadog.
‘Cadw ffenestri ar agor’
Dywedodd Dr Eilir Hughes, sy'n arwain Clwstwr Meddygon Teulu Dwyfor ac sy’n aelod o Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Gwynedd:
“Rydan ni’n gwybod fod y straen Delta o’r haint yn trosglwyddo yn rhwydd felly mae hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i atal y lledaeniad.
“Gallwn wneud hyn drwy aros yn yr awyr agored pan fyddwn yng nghwmni pobl eraill, gwisgo gorchudd wyneb, cadw at reolau pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn rheolaidd. Os byddwch dan do, cofiwch gadw ffenestri a drysau ar agor er mwyn helpu i ddod â'r awyr iach i mewn.
“Mae'r achosion diweddaraf yma hefyd yn amlygu pwysigrwydd fod pob oedolyn yn cymryd y cyfle am frechiad Covid-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. Mae hyn yn cynnwys yr ail ddos sy'n rhoi hwb pellach i lefel yr amddiffyniad yn erbyn yr amrywiad Delta.”