Mwy nag 20 o bobl yn achub dau berson mewn ogofeydd yn Eryri
Roedd mwy nag 20 o bobl yn rhan o ymgyrch i achub dau berson oedd ar goll mewn ogofeydd yn Eryri ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth aelodau o Sefydliad Achub Ogofeydd Gogledd Cymru ymateb yn sgil adroddiadau nad oedd dau berson wedi dychwelyd o daith i ogofeydd yn chwarel lechi Croesor-Rhosydd.
Fe wnaeth y tîm o Sefydliad Achub Ogofeydd Gogledd Cymru rannu yn ddau er mwyn lleoli’r ogofäwyr, gydag un tîm yn cerdded i’r safle o Danygrisiau, a’r llall yn gyrru o Groesor gydag aelodau o dîm Achub Mynydd Aberglaslyn.
Fe lwyddodd un o’r bobl oedd yn yr ogof i ganfod ffordd allan, gan roi cymorth i’r tîm i ddod o hyd i’r ail berson.
Fe eglurodd fod y cwch a oedd yn eu cludo ar draws llyn y chwarel wedi mynd yn sownd, gan eu gorfodi i fynd yn ôl ar hyd y ffordd yr oeddent eisoes wedi bod.
Er nad oedd yr ail berson wedi ei anafu, nid oedd yn medru dringo allan o’r ogof. Ond llwyddodd y tîm achub i ddod o hyd i’r person a’i dywys oddi yno.
Daeth yr ymgyrch i ben erbyn 23.00 nos Sadwrn.
Llun: Sefydliad Achub Ogofeydd Gogledd Cymru