Newyddion S4C

R. Alun Evans wedi marw'n 86 oed

21/08/2023

R. Alun Evans wedi marw'n 86 oed

Mae’r awdur a’r darlledwr, y Parchedig Ddr. R. Alun Evans wedi marw yn 86 oed.

Yn wreiddiol o Lanbrynmair, Powys, fe aeth ymlaen i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, cyn cael ei ordeinio’n weinidog gyda’r Annibynwyr yng nghapel Seion, Llandysul.

Fe aeth ymlaen i ymuno ag Adran Grefydd BBC Cymru yn 1964, ac fe gafodd yrfa amrywiol gyda'r BBC.

Y sylwebaeth Gymraeg gyntaf erioed

Roedd yn cyflwyno'r rhaglen gylchgrawn ddyddiol Heddiw rhwng 1969 a 1979, ac yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn sylwebu ar seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol ac ar gemau pêl-droed yn y Gymraeg.

Dr. Evans hefyd wnaeth y sylwebaeth bêl-droed gyntaf erioed yn y Gymraeg ar y radio, a hynny yn fyw o gêm Cymru yn erbyn Yr Alban yn 1977.

Image
R Alun

Roedd yn aelod amlwg o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a bu'n Gadeirydd ar y corff rhwng 1999 a 2001 a chafodd ei ethol yn Llywydd  Llys yr Eisteddfod rhwng 2002 a 2005.

Fe gafodd ei anrhydeddu yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad oes a’i wasanaeth i’r Brifwyl.

Wedi ymddeol yn 1996, bu'n astudio am radd Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac enillodd ei radd PhD am ei waith ar 'Dechrau a datblygu darlledu yng Ngogledd Cymru' yn 1999.

Dychwelodd i'r weinidogaeth wedi ei ymddeoliad, a bu'n gwasanaethu gyda'r Annibynwyr yng Nghaerffili a Gwaelod-y-Garth nes ei ymddeoliad ddiwedd 2014. Bu hefyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Mae’n gadael ei weddw Rhiannon, a dau o blant, y cyfarwyddwr Rhys Powys a’r ddarlledwraig Betsan Powys.

'Anwyldeb hyfryd a’r agosatrwydd'

Wrth ymateb i'r newydd am farwolaeth Dr. Evans, dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: 

“Roedd R Alun Evans yn un o gefnogwyr mawr yr Eisteddfod.  Bu’n rhan o lywodraethiant y Brifwyl am flynyddoedd lawer, ac roedd ei ffyniant a’i datblygiad yn agos iawn at ei galon.  Roedd yn arweinydd naturiol a gofalus yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, ac roedd ein perthynas gydag R Alun yr un mor gryf ac agos heddiw ag y bu erioed. 

“Cwta dair wythnos yn ôl roedden ni’n cydweithio er mwyn cwblhau’r argraffiad newydd o’i gyfrol ar hanes Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ac rydyn ni mor falch o fod wedi cael y cyfle i gwblhau’r prosiect hwn a oedd mor agos at ei galon.

Image
r Alun

“Roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael.  Roedd yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod yn glir, ac yn rhannu o’i brofiad a’i syniadau gyda ni tan y diwedd.  Ac roedden ni bob amser yn ddiolchgar am ei sylwadau a’i farn adeiladol; roedd sgwrs gydag R Alun yn gyfle i gamu’n ôl ac ystyried pethau, a’r cyfan oll er budd yr Eisteddfod, y Gymraeg a Chymru.

“Byddwn yn colli hyn yn arw, a byddwn hefyd yn colli’i anwyldeb hyfryd a’r agosatrwydd a oedd yn rhan mor greiddiol o’i bersonoliaeth.  Roedd yn gefnogol o’r Eisteddfod, ac roedd yn gefnogol o bawb a oedd yn ymwneud â’r ŵyl. 

"Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Rhiannon, Rhys a Betsan heddiw, ac yn diolch am y gyfeillgarwch a’r gefnogaeth drwy’r blynyddoedd.” 

'Darlledwr crefftus a chraff'

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Roedd R Alun Evans yn ddarlledwr crefftus a chraff; yn gawr ac yn arloeswr ymhlith darlledwyr Cymru dros sawl degawd a chanddo’r gallu unigryw hwnnw i greu agosatrwydd arbennig gyda’i gynulleidfa. 

"Byddwn ni yn y BBC yn ei gofio fel lladmerydd cadarn dros ddarlledu yn y Gogledd hefyd, ac am ei gyfraniad amhrisiadwy tuag at ddatblygiad BBC Radio Cymru. 

"Roeddwn i bob amser yn gwerthfawrogi pob nodyn neu alwad ganddo yn cynnig gair o gyngor doeth, her hyd yn oed,  neu annogaeth. 

“Wrth i ni gydnabod ei gyfraniad helaeth, rydym hefyd yn meddwl ac yn cofio am ei deulu yn eu colled."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.