Newyddion S4C

Cyhoeddi Prif Lenor Eisteddfod T 2021

03/06/2021
Sioned Medi Howells
Sioned Medi Howells

Sioned Medi Howells o New Inn ger Pencader yw Prif Lenor Eisteddfod T 2021. 

Caryl Lewis, fu’n beirniadu’r gystadleuaeth, gyda dros 70 o geisiadau yn dod i law. 

Dywedodd bod y ceisiadau'n amrywio rhwng straeon byrion ac ymsonau, llythyrau a phenodau cyntaf nofelau.

Fe dderbyniodd Sioned, sydd ar fin cwblhau ei blwyddyn olaf yn astudio cwrs bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, dlws wedi ei greu'n arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.

Daeth Huw Griffiths o Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf yn ail a Ciarán Eynon o Landrillo-yn-Rhos, Conwy yn drydydd.

Gallwch ddilyn holl gystadlaethau Eisteddfod T ar S4C drwy gydol yr wythnos, neu wylio ar alw ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.