Dronau wedi eu goleuo'n rhybuddio pobl am beryglon tir milwrol yn Sir Benfro
Fe wnaeth digwyddiad yn defnyddio dronau oleuo'r nos uwchben tref arfordirol yn Sir Benfro gyda delweddau o danciau, hofrenyddion a milwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon tir hyfforddi milwrol.
Cymerodd mwy na 100 o ddronau ran yn y digwyddiad uwchben Dinbych-y-pysgod, i ddangos sut y gall ardaloedd o'r fath symud o leoliadau tawel i ardaloedd o ymladd.
Newidiodd y delweddau o farcutiaid, beicwyr mynydd a chŵn i hofrenyddion a thanciau milwrol fel rhan o ymgyrch ddiogelwch Respect The Range y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o'r peryglon y mae aelodau'r cyhoedd yn eu hwynebu wrth fynd ar dir milwrol, gan gynnwys tanio byw, ordnans heb ffrwydro a cherbydau sy'n symud yn gyflym.
Roedd tua 3,000 o ddigwyddiadau o bobl yn croesi i mewn i Ystad Hyfforddiant Amddiffyn y DU yn beryglus rhwng Medi 2021 a Medi 2022, gyda bron i 10% yn cael eu disgrifio fel digwyddiadau oedd yn agos at fod yn drychinebus.
Roedd y rhain yn cynnwys pobl yn cerdded ar draws meysydd tanio byw ac ardaloedd a sefydlwyd ar gyfer pyrotechneg a ffrwydron, cŵn yn rhedeg i feysydd hyfforddi, a phobl yn codi malurion milwrol.
Dewiswyd Dinbych-y-pysgod ar gyfer yr arddangosfa dronau oherwydd ei agosrwydd at ardal hyfforddi Castell Martin yn Sir Benfro.
Dywedodd Brigadydd Jonathan Bartholomew o’r Sefydliad Seilwaith Amddiffyn a’r Ystad Hyfforddiant Amddiffyn: “Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, mae’r bygythiadau a’r heriau y mae ein gwlad yn eu hwynebu wedi esblygu.
“Mae ein Lluoedd Arfog yn ganolog i ddiogelu buddiannau’r DU, yn enwedig ar adeg o densiynau uwch ledled y byd.
“Trwy ymgyrch ddiogelwch Respect The Range, rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd ein helpu ni i’w cadw’n ddiogel wrth gael mynediad i dir hyfforddi, yn ogystal â sicrhau bod ein Lluoedd Arfog yn gallu cyflawni eu hyfforddiant hanfodol yn ddi-dor.”