Newyddion S4C

Teuluoedd dioddefwyr Lucy Letby yn addo parhau i chwilio am atebion

19/08/2023
Lucy letby

Mae teuluoedd babanod gafodd eu llofruddio gan y nyrs Lucy Letby wedi addo parhau i chwilio am atebion wrth i bwysau gynyddu ar yr ysbyty lle bu’n gweithio am yr hyn y gellid bod wedi ei wneud i atal ei throseddu.

Cafwyd y nyrs “twyllodrus” 33 oed yn euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio chwech arall yn ystod ei sifftiau yn yr uned newydd-asnedig yn Ysbyty Iarlles Caer dros gyfnod o flwyddyn yn 2015 a 2016.

Mae teuluoedd ei dioddefwyr wedi dweud eu bod yn “dorcalonnus, wedi’u llorio, yn ddig ac yn teimlo’n ddideimlad” o ganlyniad i'w gweithredoedd.

Yn dilyn ei heuogfarn yn Llys y Goron Manceinion ddydd Gwener, fe ddywedodd dau o deuluoedd y babanod trwy eu cyfreithiwr nad “yw hi’n ddiwedd ar ein taith am atebion”.

Dywedodd Yvonne Agnew, pennaeth adran esgeulustod clinigol cwmni cyfreithiol Slater a Gordon yng Nghaerdydd: “Er bod heddiw yn nodi diwedd yr achos hwn, nid dyma ddiwedd ein chwilio am atebion a’n brwydr dros gyfiawnder i’n cleientiaid.

“Rydym yn benderfynol bod gwersi’n cael eu dysgu gan Ysbyty Iarlles Caer, y GIG a’r proffesiwn meddygol ehangach fel nad oes unrhyw fabanod na rhieni yn cael eu niweidio fel hyn eto.”

Adolygu achosion

Daw hyn wrth i’r heddlu ddweud eu bod yn adolygu gofal 4,000 o fabanod a dderbyniwyd i Iarlles Caer – a hefyd Ysbyty Merched Lerpwl lle cafodd Letby ddau leoliad gwaith – gan fynd mor bell yn ôl â 2012.

Mae'r ysbyty yng Nghaer wedi dod o adn y lach am pa bryd y galwodd yr heddlu i mewn i ymchwilio ac a ellid bod wedi gwneud mwy i atal Letby.

Mae ymchwiliad annibynnol anstatudol i’r modd y mae wedi delio â’r achos wedi’i gyhoeddi gan yr Adran Iechyd yn Lloegr ac mae’r ombwdsmon iechyd yno hefyd wedi dweud bod yn rhaid i’r GIG wella ei ddiwylliant gwaith pan fydd staff yn codi “rhybuddion am ddrygioni go iawn”.

Bu 13 o farwolaethau yn yr uned newydd-anedig lle bu Letby’n gweithio dros gyfnod o flwyddyn, yn ôl y BBC, sydd bum gwaith y gyfradd arferol, a bod Letby ar ddyletswydd ar gyfer pob un ohonynt.

Fe allai hi fod wedi cael ei hatal mor gynnar â mis Mehefin 2015 pan gynhaliodd swyddogion gyfarfod lle cytunwyd y byddai ymchwiliad allanol i’r marwolaethau’n cael ei gynnal ond ni chafodd hyn ei gynnal erioed, meddai’r BBC.

Ym mis Hydref y flwyddyn honno, ar ôl i saith o fabanod farw, gwnaed cysylltiad rhwng yr holl farwolaethau a Lucy Letby, a ddisgrifiodd yr erlynwyr fel “presenoldeb maleisus cyson” yng ngofal y babanod.

Er gwaethaf hyn y gred oedd bod y cysylltiad yn gyd-ddigwyddiad ar y pryd.

Dywedodd Dr Susan Gilby, a gymerodd yr awenau fel cyfarwyddwr meddygol yr ysbyty fis ar ôl i Letby gael ei arestio, wrth y BBC: “Roedd y pediatregwyr yn trafod y nosweithiau ofnadwy ar alwad yr oedden nhw’n eu cael, dywedodd un ohonyn nhw ‘bob tro mae hyn yn digwydd i fi, fy mod yn cael fy ngalw i mewn ar gyfer y digwyddiadau trychinebus hyn a oedd yn annisgwyl ac anesboniadwy, mae Lucy Letby yno, ac yna dywedodd rhywun arall ‘do, fe wnes i ddarganfod hynny’, ac yna cafodd rhywun arall yr un ymateb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.