Ken Owens yn siarad yn agored am ei anaf, ei ddyfodol a Chwpan y Byd
Mae Ken Owens wedi siarad am ei frwydr gydag anafiadau, yn ogystal â gobeithion ei gyn gyd-chwaraewyr yng Nghwpan y Byd, gan ddweud “bod angen ychydig o lwyddiant ar Gymru”.
Mewn cyfweliad ecsgliswif gydag ITV Cymru Wales, fe wnaeth Owens siarad yn agored am deimlo’n rhwystredig am fethu bod yn rhan o ymdrech tîm rygbi Cymru yn Ffrainc fis nesaf.
Cafodd y bachwr ei ryddhau o’r garfan yng Ngorffennaf ar ôl methu a gwella o anaf i’w gefn.
Dywedodd Ken, sy’n 36 oed, ei fod “ychydig yn rhwystredig gyda beth ddigwyddodd”.
“Ro’n i’n edrych ymlaen at fynd i’r gwersyll hyfforddi - ond dyna fe, mae’n rhan o’r gêm” meddai.
Roedd nifer wedi rhagweld Owens fel capten Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Medi ar ôl iddo arwain y tîm yn ystod ei ymgyrch Chwe Gwlad ddiweddar.
Er hyn, mae’r chwaraewr i'r Scarlets yn dal i fod mewn hwyliau da, ac yn sicr nad hyn fydd diwedd ar ei yrfa.
"Dwi mewn lle da, dwi'n hapus, dim ond yn edrych ymlaen at fynd yn ôl ati", meddai.
“Gobeithio y bydda i’n gallu parhau i chwarae i lefel dda, ac i wneud cyfiawnder â’r timoedd dwi’n chwarae iddynt” meddai.
Wrth droi ei sylw at ei gyd-chwaraewyr yn Ffrainc, dywedodd Owens: “Gyda phopeth sydd wedi digwydd, mae angen ychydig o lwyddiant mewn rygbi am nifer fawr o resymau.
“Does neb yng Nghymru yn rhoi gormod o bwysau arnyn nhw […] gallen nhw fynd allan a dangos eu gallu, dangos y gwaith caled a’r gwaith meddyliol maen nhw wedi gwneud yn ystod yr haf.”
Wrth gyfeirio at Undeb Rygbi Cymru, gyda chyhuddiadau o gamdriniaeth a bygythiadau o streic y chwaraewyr, fe wnaeth Owens ychwanegu: “Byddai’n cymryd pwysau oddi wrth ysgwyddau’r bobl sydd mewn pŵer… i gael pobl i siarad am straeon positif rygbi.
“Gallen nhw fynd tu ôl i ddrysau caedig i ddatrys rhai o’r problemau sy’n dal i fodoli yn y gêm”.
Ychwanegodd: “Mae’n hynod bwysig er mwyn cael ymdeimlad da i’r genedl, ac i rygbi Cymru yn gyffredinol”.
Llun: Huw Evans