Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Addewid o ddeddf addysg newydd

Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Addewid o ddeddf addysg newydd

Newyddion S4C

Er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno deddf addysg Gymraeg yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Dyna mae'r gweinidog addysg, Jeremy Miles, wedi ei ddweud wrth Newyddion S4C - er bod ymchwil gan y rhaglen honno'n awgrymu mai aros yn eithaf cyson y mae niferoedd y plant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg.

Mae gan Mr Miles gyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn ogystal ag addysg.

"Mae'n fwriad yn ein maniffesto ni fel Llafur Cymru i gyflwyno deddf addysg gyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod ganddon ni sail statudol addas er mwyn delifro ar yr amcan sy gyda ni" meddai'r gweinidog.

"O ran cynlluniau awdurdodau lleol, neu rôl y Coleg Cenedlaethol Cymraeg, mae na amryw bethau y gallwn ni eu gwneud i gryfhau'r sail statudol a dyna'r bwriad yn y ddeddf honno maes o law."

Fe gysylltodd Newyddion S4C gyda chynghorau Cymru i ofyn faint o blant gafodd eu derbyn i addysg Gymraeg dros y pum mlynedd diwethaf.

Roedd y darlun yn un cyson - cynnydd ambell i flwyddyn, a chwymp ambell i flwyddyn arall - a'r ffigyrau, at ei gilydd, yn eitha sefydlog.

Fe ddywedodd Cyngor Gwynedd fod yr holl ysgolion cynradd yn darparu addysg Gymraeg hyd at ddiwedd y cyfnod sylfaen.

Mae ystadegau'r tri chyngor isod am niferoedd disgyblion dosbarthiadau derbyn yn adlewyrchu'r darlun cyson ar hyn a lled Cymru o gyngor i gyngor.

Cyngor Caerdydd: 

2016/17 688

2018/19 650

2020/21 712

Cyngor Sir Ddinbych: 

2016/17 277

2018/19 320

2020/21 295

Cyngor Rhondda Cynon Taf:

2017 540

2019 518

2021 540

Yn ôl tystiolaeth Cyfrifiad 2011, 562,000  o bobl Cymru oedd yn siarad Cymraeg, er bod peth amser ers y cyfrifiad hwnnw erbyn hyn. Eto i gyd, fe fyddai miliwn yn o agos i ddwywaith hynny.

Fe fydd buddsoddi mewn adnoddau - ac adeiladau - yn hollbwysig ym marn Petra Davies, pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nghlynrhedynnog, y Rhondda.

"Dan ni'n gwybod mewn dwy flynedd mae'r sir yn garedig iawn wedi dweud y byddan nhw'n adeiliadu adeilad newydd i ni fydd yn barod ym mis Medi dwy fil a dau ddeg tri" meddai.

"Yn sicr mae na gynnydd yn mynd i fod oherwydd dan ni'n symud o adeilad Fictorianaidd a dan ni'n symud i mewn i adeilad newydd sbon gyda'r holl gyfleusterau anhygoel a dwi'n meddwl y bydd na dwf naturiol wedyn yn y niferoedd sy gynnon ni yn yr ysgol."