Llofrudd Lynette White ddim yn gymwys i gael ei ryddhau o garchar

Mae bwrdd parôl wedi datgan na fydd llofrudd Lynette White yn gymwys i gael ei ryddhau o'r carchar.
Cafodd Ms White ei llofruddio yn ardal dociau Caerdydd yn 1998.
Yn dilyn y llofruddiaeth fe gafwyd un o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth yn hanes Heddlu De Cymru, ac fe garcharwyd tri dyn ar gam.
Fe gafodd y llofrudd, Jeffrey Gafoor ei ddedfrydu i oes yn y carchar yn 2003 wedi iddo gael ei ddal gan dechnoleg DNA.
Yn ôl Golwg360, dywedodd y Bwrdd Parôl nad oedd Gafoor wedi “gwneud cymaint o gynnydd ag yr oedd wedi’i obeithio” o ganlyniad i gyfyngiadau coronafeirws, ag yntau mewn carchar agored.
Darllenwch y stori'n llawn yma.