Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llanuwchllyn
02/06/2021
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Scott Adam Edwards, 30 oed, mewn gwrthdrawiad ar yr A494 rhwng Llanuwchllyn a Rhydymain brynhawn dydd Llun.
Dywedodd ei deulu fod y gŵr o Wrecsam yn fab a brawd “arbennig” ac yn dad “gwych” i’w ferch, Amaya.
Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod wedi’r digwyddiad.
Mae’r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un fyddai wedi bod yn teithio ar yr A494 tua 15:15 dydd Llun, 31 Mai, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000352226.