Angen ‘codi hyder’ siaradwyr Cymraeg er mwyn cynyddu defnydd yr iaith yn y gweithle
Angen ‘codi hyder’ siaradwyr Cymraeg er mwyn cynyddu defnydd yr iaith yn y gweithle
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw ar gyflogwyr i gefnogi siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg ar y cyd – a hynny mewn ymgyrch i hyrwyddo’r iaith yn y gweithle.
Mae Efa Gruffudd Jones wedi dweud ei bod yn hollbwysig i fanteisio ar y gweithle fel “estyniad o’r ysgol” er mwyn galluogi dysgwyr Cymraeg i barhau i ddatblygu.
Dywedodd hefyd bod y gweithle yn un o’r llefydd mwyaf amlwg lle allwn ni “fwynhau’r defnydd o’r Gymraeg” a bod angen codi hyder unigolion ledled y wlad wrth sicrhau hynny.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Beth sy’n bwysig wrth i ni ofyn i weithleoedd i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn eu gweithle nhw yw bod ni hefyd yn meddwl am sut mae hyn yn effeithio ar y rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg.
“Achos mae angen i rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd i gofnodi cyd-weithwyr a chefnogi nhw i siarad Cymraeg.
“Felly dyma un o’r pethe’ dwi’n gobeithio trafod ymhlith cyflogwyr fel bod cyflogwyr yn gallu rhannu arfer dda,” meddai.
Mae 124 o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad yn cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg.
Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw ddyletswydd i ddefnyddio a hyrwyddo’r iaith mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys yn y gweithle ac ar gyfryngau cymdeithasol.
‘Addysg’
Dywedodd Efa Gruffudd Jones: “Beth sy’n glir os ydych chi’n edrych ar y ffigyrau yw bod llai o bobol yn siarad Cymraeg wrth fynd trwy gyfnodau gwahanol o addysg.
“Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwneud gwaith gwych wrth drio cynyddu'r rheiny sy’n dilyn cyrsiau trwy’r Gymraeg mewn prifysgolion er enghraifft.
“Ond be’ sy’n wir yw os ydych chi’n gadael addysg, ble wedyn allwch chi ddefnyddio’ch Cymraeg chi?
Mae Efa Gruffudd Jones yn awyddus i weld mwy o gymorth yn y gweithlu mewn ardaloedd o’r wlad sydd â llai o Gymraeg hefyd, meddai.
“Mewn ardal fel Gwynedd, fe allwch chi wrth gwrs siarad Cymraeg wrth fynd i’r siop, wrth ymwneud a’ch bywyd cymdeithasol.
“Ond ‘dyw hynny ddim yn wir bob man yng Nghymru.”