Newyddion S4C

Tlodi yn Arfon yn bennaf oherwydd 'cyflogau isel a gwaith annibynadwy'

Newyddion S4C 07/08/2023
arfon.png

Cyflogau isel a gwaith annibynadwy yw’r ffactorau mwyaf sy’n achosi tlodi yn ardal Arfon yng Ngwynedd, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan.

Mae ymchwil newydd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Llun yn dangos fod sgil effeithiau costau byw yn waeth yng Ngwynedd na sawl ardal arall drwy Gymru gyda gweithwyr y rhanbarth yn ennill £3,000 bob blwyddyn yn llai na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig.

Wrth ddod â chyfres o ddata swyddogol ynghyd, mae’r adroddiad newydd yn dangos darlun heriol i filoedd sy’n byw yn yr ardal sy’n cynnwys Bangor a Chaernarfon, gyda’r Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams bellach yn galw am weithredu i ddileu tlodi.  

Yn ôl Llywodraeth Prydain mae nhw’n darparu dros £3,000 yn rhagor i gartrefi ledled y wlad ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud yn ystod 2022-23 a 2023-34 eu bod wedi cynnig  cefnogaeth o fwy na £3.3bn i bobl y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio arnyn nhw.

O’r 31,000 o weithwyr yn Arfon mae mwy na 60% yn gweithio mewn pedwar brif sector; Iechyd a Lles, Addysg, Cyfanwerthu a Gweinyddol ac Amddiffyn.

Mae hyn yn golygu  fod yr ardal ddwywaith yn fwy dibynnol ar y sector gyhoeddus na’r cyfartaledd Prydeinig gyda Chyngor Gwynedd, Prifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd yn parhau fel y tri prif gyflogwr.

Mae’r adroddiad gan Sefydliad Bevan wedi gwneud cyfres o ddarganfyddiadau i darddiad tlodi a sawl argymhelliad i lywodraethau ar bob lefel am ffyrdd o leddfu’r pwysau i drigolion yr ardal.

'Anodd'

Gyda phrisiau tai yn uwch na’r cyfartaledd, mae bwyd, tanwydd, costau gofal plant a thrafnidiaeth hefyd yn uwch na’r lefel Brydeinig  gan olygu fod sgil effeithiau costau byw yn fwy dwys yn Arfon na sawl man arall.

Dydi’r canfyddiadau ddim yn syndod i Anne Evans, Rheolwr Prosiect Porthi Dre, menter gymunedol sy’n darparu bwyd a chymorth am ddim yng Nghaernarfon.

“Dwi’m yn synnu o gwbl... na”, meddai Anne Evans.

“Mai yn anodd- ‘sa chi mond yn sbio ar faint o bobl sydd wedi cerdded mewn heddiw am bryd o fwyd poeth am ddim”.

“Da ni’n ei gynnal o ddwywaith yr wythnos i helpu tuag at yr argyfwng costau byw”.

Bwyd traddodiadol sy’n cael ei weini gan griw Porthi Dre, cig, llysiau a thatws er mwyn cynnig maeth i rheini sy’n dod.

Mae tlodi yn Arfon yn gymhleth ac yn rhan greiddiol o sawl cymuned, ond mynnu mae Dr Steffan Evans awdur yr adroddiad “nad yw tlodi yn anochel”.

“Er bod tâl swyddi sydd wedi eu gosod yn Arfon yn gystadleuol, mae cyflogau pobl sy’n byw yn Arfon yn isel iawn”.

“Mae’r gwrthgyferbyniad yna... ‘dio ddim yn rhywbeth ‘da ni ddim yn gweld yn aml iawn.

“A hefyd costau byw- premiwm costau byw yn Arfon mae hwnna yn dod drwodd yn amlwg iawn”.

Mae swyddi yn y sector gweithgynhyrchu mond i gyfri am 4% o swyddi’r fro o gymharu ag 8% ledled Cymru ac un cyfarwyddwr ffatri gaws yng Ngwynedd yn dweud fod na le am fwy o gymorth i hybu’r sector breifat.

'Cefnogaeth'

Mae Hufenfa De Arfon yn cynnig cyfoeth o swyddi amrywiol ac yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr Alan Wyn Jones, mae’r cwmni newydd sicrhau cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau.

“Ar ddiwedd y dydd, mae’r sector breifat yn adio gwerth i ardal”, meddai Mr Jones.

“Mae ‘na lot o gwmnïau preifat llwyddiannus iawn yn yr ardal yma ac mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n cael y gefnogaeth i symud ymlaen yn y dyfodol”.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod angen i lywodraethau ar sawl lefel wneud mwy i gefnogi mentrau cymunedol.

“Mae cryfderau sylweddol yn Arfon”, meddai’r adroddiad.

“Mae’r mentrau cymunedol yma yn creu swyddi yn lleol mewn ffordd sy’n sicrhau fod y cyfoeth yn aros o fewn yr ardal”.

Un enghraifft o’r llwyddiannau hynny ydi Galeri yng Nghaernarfon.

Ers 1992 mae’r fenter wedi prynu 20 o adeiladau gyda 50 o denantiaid bellach yn gweithio o’r safleoedd.

'Anobaith'

Mae Galeri hefyd wedi datblygu canolfan gelfyddydol sy’n darparu cymorth i gymunedau difreintiedig yr ardal ac yn cyfrannu rhyw £2.5m i economi Gwynedd a Môn.

“Da ni wedi bod yn ail adrodd y bregeth yma ers blynyddoedd, ‘da ni yn Galeri ers deng mlynedd ar hugain”, meddai Gwyn Jones Cyfarwyddwr Datblygu Galeri.

“Mae ‘na sawl menter gymunedol yng Ngwynedd, rhyw 30-40 yng Ngwynedd”.

“Dio ddim yn syniad newydd ond mae’n syniad bosib sy’n cael ei dderbyn mwy wrth i bobl deimlo anobaith... sut da ni’n cael y grym yma yn nol i’n cymunedau?”.

Dau o'r prif ffactorau sy’n dwysáu sgil effaith y cynnydd yng nghostau byw Arfon yw Tai a Thrafnidiaeth.

Sut mae gwella'r farchnad dai yn Arfon ?

Yn ôl Sefydliad Bevan fe allai’r polisïau canlynol leddfu heriau’r farchnad dai ;

  • Ehangu cynllun y sir o brynu tai yn nôl er mwyn gwella stoc dai fforddiadwy y sir
  • Ehangu cynllun ail dai Dwyfor i gwmpasu ardal Arfon hefyd
  • Adeiladu rhagor o dai cymdeithasol ar draws Arfon.

 

Sut mae gwella'r system drafnidiaeth ?

Yn ôl Sefydliad Bevan mae angen i Gyngor Gwynedd;

  • Gefnogi mentrau cymunedol wrth drefnu trafnidiaeth amgen i gymunedau
  • Ystyried a oes modd cefnogi mentrau cymunedol i ddarparu mwy o drafnidiaeth ar alw
  • Ystyried rhagor o lwybrau teithiau llesol fel beiciau trydanol.

 

Yr Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams gomisiynodd yr adroddiad gan Sefydliad Bevan a mae bellach yn galw am weithredu i ddileu tlodi.

“Mae ’na atebion fan hyn i bob etholaeth”, meddai.

“Ma’n amlwg bod angen gweithredu o ran Llywodraeth Cymru a Phrydain imi fel AS angen mynd ati i godi budd-daliadau yn amlwg”.

Mae tlodi yn Arfon, fel mewn sawl man yn gymhleth ac yn dod i'r amlwg mewn ffyrdd gwahanol.

Ond gyda 2,500 o blant y sir yn byw mewn tlodi, mae’r galw am weithredu yn glir.

Mae’r adroddiad yn nodi fod y pwerau i atal tlodi yn bennaf yn nwylo Llywodraeth Prydain a Chymru. Ac mae'n galw am gynyddu taliadau Credyd Cynhwysol, diwygio Lwfans Tai Lleol a diddymu’r ddeddf sy’n rhwystro rhieni sydd â mwy na 2 o blant rhag derbyn rhagor o fudd-daliadau.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod yn darparu cefnogaeth ariannol cyfwerth a £3,000 i bob cartref sy’n swm record.

“Rydym wedi cynyddu budd-daliadau o 10.1% ac mae cynnydd digynsail drwy gyflwyno’r Cyflog Byw Go Iawn a hefyd darparu £50m yn rhagor i bobl Cymru am gostau sylfaenol”.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet sy’n arwain ar faterion trechu tlodi: “Rydym yn croesawu gwaith ymchwil Sefydliad Bevan i’r maes dyrys hwn ac edrychwn ymlaen i weld yr adroddiad yn cael ei chyhoeddi ynghyd ag argymhellion posib i ni fel awdurdod lleol i’w hystyried.

“Mae’r maes hwn yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac mae gennym sawl rhaglen ar waith sy’n ymateb i leihau effeithiau ac atal tlodi ar ein trigolion. Mae nifer o gynlluniau yn ymwneud ag ystod o feysydd, gan gynnwys gofal plant ac addysg; cyflogadwyedd a swyddi; tai; iechyd a gofal; cludiant; budd-daliadau a lles ac wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi ei dargedu at y bobl sydd ei angen fwyaf. Yn ystod 2022-23 a 2023-34, roedd y gefnogaeth yma yn werth mwy na £3.3bn.

"Rydym yn wynebu pwysau ariannol eithriadol, gan gynnwys y lefelau uchaf erioed o chwyddiant, sy’n golygu fod ein cyllid yn werth hyd at £900m yn llai mewn termau real."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.