BBC yn dod â chyfres Holby City i ben wedi 23 mlynedd

Holby City
Mae'r BBC wedi cyhoeddi y bydd cyfres ddrama Holby City yn dod i ben fis Mawrth nesaf wedi 23 mlynedd.
Cafodd y gyfres ei darlledu'n gyntaf yn 1999 yn dilyn hanesion staff a chleifion Ysbyty Holby City, lleoliad ffuglennol y gyfres Casualty sydd yn cael ei ffilmio ym Mae Caerdydd.
Bwriad y BBC yw cynhyrchu mwy o gyfresi teledu ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl The Mirror.
Bydd y gyfres yn parhau i gael ei darlledu bob nos Fawrth tan fis Mawrth 2022.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Gill Rickson (drwy Wikimedia Commons)