Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod

John Rowley

Mae'r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain wedi ei ennill gan ffotograffydd ac artist gweledol o Gaerdydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.

Cyflwynwyd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain a £5,000 i John Rowley mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan ger Pwllheli ar ddydd Sadwrn agoriadol yr Eisteddfod. 

Artist arall o Gaerdydd, Dan Griffiths, enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio.

Artist o Ynys Môn, Llyr Evans o Foelfre, enillodd Ysgoloriaeth Artist Ifanc.

Wrth ddyfarnu'r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i John Rowley, dywedodd y detholwyr, Elfyn Lewis, Owein Prendergast a Junko Mori fod ei waith yn "gyffrous a chwareus".

Roedd yr artist wedi cyflwyno tri llun ohono'i hun yn gwisgo 'masgiau' roedd wedi'u creu yn ei gartref o ddeunyddiau bob dydd ac yna wedi tynnu lluniau ohonyn nhw a phostio'r delweddau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y dewiswr Elfyn Lewis: "Buom yn trafod am amser hir yn ystod y bore. Roeddem wedi trafod gyda'n gilydd dros y misoedd diwethaf ar-lein ac wedi gwneud y penderfyniad terfynol hwn heddiw.

"Dwi'n meddwl mai dyma'r tro cyntaf i'r dyfarniad terfynol gael ei wneud y diwrnod hwnnw cyn i'r fedal aur gael ei chyflwyno. Mae'n wych oherwydd mae pawb yn cael yr un chwarae teg.”

Mae gan John Rowley dros 20 mlynedd o brofiad perfformio proffesiynol, yn gweithio'n helaeth ym myd theatr, ffilm a theledu.

Mae'n berfformiwr, gwneuthurwr theatr ac artist gweledol. Yn y 1990au roedd yn aelod craidd o’r cwmni theatr arbrofol Cymreig, Brith Gof.

Ers 2000 mae John wedi bod yn berfformiwr cyswllt gyda Forced Entertainment. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda Pearson/Brookes i National Theatre Wales.

Wrth ddisgrifio ei waith dywedodd: "Byddai'n rhaid adeiladu'r ‘masgiau’ a'u tynnu i fyny i Instagram o fewn 15 munud.

“Cyn gynted ag y bydd y llun yn cael ei dynnu, mae'r rhan fwyaf o'r masgiau'n disgyn yn ddarnau ac yn cael eu hailgylchu, eu taflu yn y bin neu eu cymryd i mewn i'r ardd i chwalu."

Image
Gwaith Dan Griffiths
Gwaith Dan Griffiths

‘Gofod’

Yn ôl y detholwyr, roedd gwaith Dan Griffiths, ennillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, "wedi dal y llygad".

Roedd Dan Griffiths wedi cyflwyno gwaith lliwgar o'r enw "Chwech" yn yr Eisteddfod.

Dywedodd yr artist, o Bont-y-clun ac sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, am ei waith: "Mae Chwech yn daith, yn adlewyrchiad haniaethol o'r amgylchedd adeiledig.

“Archwilio'r rhyng-gysylltiadau rhwng gwrthrychau, gofod a'r ddinas."

Bydd y wobr o £1,500 Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn galluogi i Llyr Evans ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.

Erbyn hyn yn byw yn Llundain, dechreuodd diddordeb Llyr mewn ffotograffiaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch ar ôl anogaeth gan ei athrawes Mandy Roberts – a ddywedodd Llyr mai hi “yw’r rheswm dwi’n tynnu lluniau heddiw”.

Wrth ddisgrifio ei waith sydd yn cael ei arddangos yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd Llyr: "Mae'r casgliad hwn yn gyfuniad o elfennau o fyd celf a ffilm i greu byd dychmygol, ond hefyd byd sydd wedi'i wreiddio mewn realiti. Rydym yn curadu cymeriadau, lleoliadau a'r naratif a welir yn y portreadau yn ofalus i'w hail-greu.”

Image
Gwaith Llyr Evans
Gwaith Llyr Evans

Y Lle Celf

Yn ystod yr ŵyl wythnos o hyd Y Lle Celf, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fydd yr arddangosfa gelf dros dro fwyaf yn Ewrop gyda dwsinau o waith celf a ddewiswyd yn ofalus yn cael eu harddangos.

Dywedodd Elin Huws, cadeirydd pwyllgor Celf Llŷn ac Eifionydd: “Mae’r Eisteddfod yn rhoi lle i artistiaid arddangos eu gwaith ac am wythnos bob blwyddyn Y Lle Celf yw’r oriel gelf fwyaf poblogaidd yng Nghymru.

“Mae’r arddangosfa hon wedi dod yn sioe broffesiynol iawn ac mae ennill gwobr yn hynod bwysig i enw da artist.

"Efallai na fydd yr hyn sy'n gyffrous, arloesol a ffres i un yn cael ei ystyried felly gan eraill. Dyna sy'n digwydd fel arfer yn Y Lle Celf a chawn weld beth yw'r farn am y gelfyddyd yn yr arddangosfa eleni."

Eglurodd, er mwyn gallu arddangos yn yr arddangosfa, fod yn rhaid i artistiaid a dylunwyr naill ai fod wedi eu geni yng Nghymru, bod â rhieni Cymreig, neu wedi byw neu weithio yng Nghymru am o leiaf dair blynedd cyn y dyddiad cyflwyno. Gwneir y dewis terfynol gan banel o arbenigwyr.

Ychwanegodd Elin fod sawl prosiect wedi bod yn digwydd yn nalgylch yr Eisteddfod ers misoedd ac y bydd y rhain yn cael lle amlwg yn yr arddangosfa.

“Cafodd prosiect Cofnod ei sefydlu gyda’r bwriad o gadw enwau lleoedd fel caeau, capeli a thraethau’n fyw.

“Yn ystod yr Eisteddfod ei hun bydd gennym ni thema benodol bob dydd yn Y LLe Celf gyda gweithdai a gweithgareddau,” meddai.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan yn rhedeg o Awst 5-12. Mwy o fanylion arlein ar eisteddfod.cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.