Dynes yn yr ysbyty am bron i flwyddyn yn disgwyl am ofalwr

31/07/2023
Lily

Treuliodd dynes yn ei 90au bron i flwyddyn yn yr ysbyty yn ddiangen am nad oedd ei chyngor yn gallu dod o hyd i ofalwyr i gymryd gofal ohoni yn y gymuned.

Roedd Lily, 96, yn Ysbyty'r Barri ym Mro Morgannwg am 11 mis er ei bod yn ddigon iach i gael mynd adref.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ym mis Chwefror 2022 gyda haint ond roedd dal yno ym mis Mai 2023.

Bydd ei hanes yn cael ei adrodd fel rhan o raglen BBC Wales Investigates ddydd Llun.

Dywedodd Lily wrth y rhaglen: “Ro’n i’n arfer dweud ‘rydw i eisiau mynd adref’ ond roedd y gweithiwr cymdeithasol yn dweud ‘ry’n ni’n brin o staff ar y funud’.

“Mae yna bobl yn dod i mewn i’r ysbyty o hyd ac mae’n rhaid iddyn nhw gael gwelyau.

“Ro’n i’n cadw gwely i fy hun mewn gwirionedd pan ddylwn i fod wedi bod adref ers amser hir, oni bai fod yna ddiffyg gofalwyr.”

‘Gwella’n raddol’

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi “ymddiheuro yn daer” i Lily ond wedi dweud nad yw achosion o’r fath yn unigryw iddyn nhw oherwydd problemau ar draws y DU.

Mae’r rhaglen wedi darganfod bod y rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi cadw cleifion i aros dros chwe mis am ofal yn y gymuned.

Roedd 138 o bobol wedi marw yng Nghymru'r llynedd yn disgwyl am gefnogaeth.

Dywedodd pennaeth ADSS Cymru, sy’n cynrychioli penaethiaid gofal cymdeithasol ar draws Cymru ei fod yn dalcen caled.

Byddai angen ymdrech “fel creu'r GIG” i ddatrys y broblem, meddai Alwyn Jones.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £70m eleni i wella tal gofalwyr.

“Ers mis Ebrill, dros y tri mis diwethaf mae pethau wedi dechrau gwella’n raddol ac mae mwy o becynnau gofal ar gael,” meddai.

Ychwanegodd fod nifer y cleifion “sy’n aros yn yr ysbyty sy’n feddygol ffit ac a allai fynd adref yn lleihau”.

Bydd BBC Wales Investigates: I Want to Go Home ar BBC One Wales a BBC iPlayer 20.00 ddydd Llun, 31 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.