Ffa Coffi Pawb yn ailgyhoeddi eu halbwm Hei Vidal! trwy lansio blas coffi

Ffa Coffi Pawb

Mae'r band Ffa Coffi Pawb wedi gwireddu addewid eu henw o'r diwedd.

Maen nhw wedi nodi ail-lansiad eu trydydd albwm Hei Vidal! o 1992 drwy lansio blas coffi eu hunain mewn caffi yng Nghaerdydd.

Cafe Hard Lines a prif leisydd y band Gruff Rhys sydd wedi creu'r coffi i ddathlu'r lansiad.

Bydd Rhys Gruff yn cynnig paneidiau am ddim i bobl sy'n mynychu'r caffi yng Nghaerdydd o ddydd Gwener ymlaen.

'Twp'

Dywedodd y prif leisydd fod y syniad yn un amlwg.

"Mae Ffa Coffi Pawb yn cyfieithu i 'Coffee Beans for Everyone', ond mae ganddo ail ystyr Wenglish sydd yn seinegol yn golygu 'F**k Off Pawb'," meddai.

"Felly wrth ystyried y cyd-destun byddai'n dwp i beidio creu blas coffi i ddathlu ailgyhoeddi'r albwm."

Dyma'r tro cyntaf i'r albwm fod ar gael ar wasanaethau ffrydio, yr unig ffordd o wrando arni gynt oedd ar CD neu gopi gwreiddiol pan gafodd ei ryddhau yn 1992.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.