Oedi llacio cyfyngiadau Covid-19 yn Yr Alban

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi oedi llacio cyfyngiadau Covid-19 yn y wlad.
Yn ôl The Scotsman, y cynllun yn wreiddiol oedd symud rhan fwyaf o’r wlad i lefel rhybudd un erbyn 7 Mehefin, cyn symud i lefel sero erbyn diwedd y mis.
Ond, mae Mr Sturgeon wedi penderfynu peidio symud ymlaen â’r cynlluniau er mwyn rhwystro’r posibilrwydd o drydedd don o Covid-19 yn sgil amrywiolyn a gafodd ei adnabod gyntaf yn India.
Er hynny, mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Glasgow yn cael symud i lefel rhybudd un nos Wener, ar ôl wyth mis o gyfyngiadau Covid-19 llym.
Fe fydd Caeredin, Midlothian, Dundee, Dwyrain sir Dunbarton, sir Renfrew, Dwyrain sir Renfrew, y tair sir Aeron, Gogledd a De sir Lanark, sir Clackmannan a Stirling yn parhau i fod yn lefel rhybudd dau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Llywodraeth Yr Alban