Newyddion S4C

Sarah Everard wedi marw ar ôl i'w gwddf gael ei wasgu, yn ôl post-mortem

Sky News 01/06/2021
Sarah Everard

Bu farw Sarah Everard ar ôl i'w gwddf gael ei wasgu, meddai'r heddlu.

Cafodd y darganfyddiad ei wneud yn dilyn post-mortem i farwolaeth y fenyw 33 oed, a ddiflannodd ar 3 Mawrth wrth gerdded adref yn ardal Clapham, de Llundain, meddai Sky News.

Cafodd ymchwiliad ei lansio gan yr heddlu, cyn dod o hyd i'w chorff wythnos yn ddiweddarach mewn coetir yng Nghaint.

Mae swyddog Heddlu Metropolitan, Wayne Couzens, 48, o Deal, Caint, wedi’i gyhuddo o’i herwgipio a’i llofruddio.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Heddlu Metropolitan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.