Humphrey Ker i gamu lawr o fwrdd CPD Wrecsam 

Humphrey Ker

Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau bod Humphrey Ker yn mynd i gamu lawr o fwrdd y clwb ar ôl cyfnod o bum mlynedd gyda'r Dreigiau.

Dywedodd y clwb fod Ker wedi chwarae “rhan hanfodol” wrth ddod â'r cyd-gadeiryddion Rob McElhenney a Ryan Reynolds i'r clwb yn ôl yn 2021, wrth drosglwyddo o fod dan berchnogaeth Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i'r perchnogion newydd. 

Penodwyd yr actor a'r digrifwr yn gyfarwyddwr gweithredol Wrecsam pan ddaeth y sêr Hollywood i’r clwb.

Roedd hefyd yn rhan amlwg o'r gyfres ddogfen *Welcome to Wrexham*, sydd wedi helpu i godi proffil y clwb a dinas Wrexham yn fyd-eang.

Dywedodd Humphrey Ker: "Mae gweithio i CPD Wrecsam a'r dref ehangach, a'u cynrychioli, wedi bod yn anrhydedd mwyaf fy mywyd.

"Rwy'n falch o'r rhan rwyf wedi'i chwarae yn nhaith ryfeddol y Clwb, ar y cae ac oddi arno.

"Mae'r ffordd y mae'r Clwb wedi esblygu a'r ffordd y mae wedi'i strwythuro bellach wedi ei gwneud hi'n anoddach i mi wneud cyfraniad cadarnhaol; felly, er fy mod yn drist o adael, rwy'n teimlo mai gwylio o bell yw'r peth iawn i mi nawr.

"Byddaf bob amser yn gefnogwr ac yn dymuno pob llwyddiant i'r Clwb, y gymuned a'r cefnogwyr. I bawb sydd wedi gwneud i mi deimlo mor groesawgar, diolch o waelod calon."

Dywedodd y cyd-gadeiryddion Rob McElhenney a Ryan Reynolds: "Mae Humphrey wedi bod yn rhan allweddol o stori Wrecsam ers y diwrnod cyntaf, a bydd colled ar ôl ei garedigrwydd, ei hiwmor a'i daldra – ond ni fyddant byth yn cael eu hanghofio.

“Mae Humphrey wedi chwarae rhan allweddol yn nhwf y Clwb dros y pum mlynedd diwethaf, gan brofi'n uniongyrchol y tri dyrchafiad yn olynol a'n taith o'r Gynghrair Bêl-droed i'r Bencampwriaeth.

“Hoffai'r Clwb ddiolch i Humphrey am ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r Clwb, y Sefydliad a'r gymuned leol. 

"Dymunwn y gorau iddo yn ei yrfa broffesiynol a'i fywyd personol yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.