Y ‘culture wars’ wedi cyrraedd y Cymry Cymraeg gyda dadl rheol iaith yr Eisteddfod medd hanesydd
21/07/2023Y ‘culture wars’ wedi cyrraedd y Cymry Cymraeg gyda dadl rheol iaith yr Eisteddfod medd hanesydd
“Faswn i’n deud fod y culture wars wedi cyrraedd y sîn Gymraeg.”
Dyna farn Dr Mari Wiliam, darlithydd Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, yn sgil y dadlau dros reol iaith yr Eisteddfod.
Gyda phythefnos i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd mae'r cyffro'n amlwg, gyda thocynnau Maes B'n gwerthu'n gynt nag erioed o'r blaen, a thros 1200 o safleoedd yn cael eu bwcio ar y maes carafanau.
Un sy’n “edrych ymlaen yn arw” ydy Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Michael Strain.
"Mae di bod yn bedair blynedd reit hir, mae na lot o waith yn mynd i mewn i drefnu Steddfod, mae di bod yn agoriad llygad i mi i fod yn rhan o rywbeth felly,” meddai.
“A dwi jyst yn rhyfeddu sut mae pob dim yn dod at ei gilydd, mae na bobol yn gweithio'n wrifoddol, yn dawel, yn ddygn, diwyd.
“Mae na bobol, staff proffesiynol y Steddfod yn gwneud gwaith anhygoel i ddod a'r ŵyl at ei gilydd a dwi'n siwr y bydd hi'n chwip o wythnos yma ym Mhen Llŷn."
‘Iachus’
Ond, yn ystod y misoedd diwethaf, mae trafod cyhoeddus tanllyd wedi taro cysgod dros y paratodau.
O ddyfodol y cystadleuthau torfol i’r rheol iaith mae’r dadlau ar-lein, ar adegau wedi troi’n gas, a Phrif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses yn dweud bod rhai pobol wedi bod yn “haerllug ac yn bersonol iawn”.
Ac nid yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig sydd wedi profi llymder y pegynnu barn eleni.
Mae Eisteddfod Llangollen a’r Urdd hefyd wedi cael ei llusgo i mewn i ganol y dadlau wrth i bynciau dadleuol gorddi’r dyfroedd.
Arwydd yw hyn medd Dr Mari Wiliam fod ‘rhyfeloedd diwylliant’ wedi cyrraedd byd y Cymry Cymraeg.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae hi’n egluro fod y term culture wars yn cyfeirio at bynciau lle ceir anghytuno a phegynnu barn mewn gwerthoedd cymdeithasol.
“’Da ni wedi ei weld o yng nghyswllt Trump yn America, ac yng nghyswllt celebs yma ym Mhrydain.”
Mae’r farn am Boris Johnson, Brexit a newid hinsawdd hefyd, meddai, yn enghreifftiau o bynciau sy’n hollti barn aruthrol ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Faswn i’n dadlau fod yr hyn ’da ni’n ei weld efo’r Eisteddfod a Sage Todz ac yn y blaen yn ymestyniad o hynny,” meddai.
Yn ôl Dr Mari Wiliam, er fod yna elfen “faleisus” ar adegau i’r cyfnewid sylwadau ar-lein, mae hi’n credu fod yna le i gael trafodaeth gyhoeddus am y pynciau sydd wedi codi yn ddiweddar.
“Faswn i’n dweud fod yna elfen eitha iachus fod y trafodaethau yma sy’n digwydd am ddiwylliant yng Nghymru a thrwy’r Gymraeg.”
'Rhaid bod yn barchus'
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi’n “credu bod lot o negyddiaeth wedi bod dros y misoedd diwethaf”.
“Mae straeon yn cael eu creu yn hytrach nag adrodd arnyn nhw,” meddai.
“Mae clickbait fel yna yn gallu bod mor niweidiol.
“Mi ges i negeseuon atgas, mi gath ein llywydd ni, mi gath staff. Mi wnes i ddweud wrth y staff - dewch oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Dywedodd fod angen cael “sgwrs ynglŷn â’r Gymraeg a’r rheol iaith” ond ei fod yn “digwydd mewn gofod lle nad oes ffeithiau anghywir yn cael eu chwydu”.
“Mae’n wych fod pobol yn siarad ac mae pobl yn angerddol," meddai.
“Mae gan bobl farn ac mae’n bwysig eu bod nhw’n cael rhoi eu barn - ond mae’n rhaid bod yn barchus.
“Yr hyn ydan ni’n colli ar hyn o bryd ydi, mae’n rheol iaith yn cael ei defnyddio gan ofyn oes 'na farc cwestiwn anferth.
“Yn hytrach na gofyn, sut da ni’n sicrhau bod y Gymraeg yn gynhwysol? A dyna’r peth pwysig i mi.”
‘Mae gan bobol farn ac mae’n bwysig eu bod nhw’n cael rhoi eu barn – ond mae’n rhaid bod yn barchus.’
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, wedi ymateb i ddadlau am reol iaith y Brifwyl ar y cyfryngau ac ar-lein. pic.twitter.com/vogcnHGZjo— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) July 21, 2023
Rheol Iaith
Dros yr wythnosau diwethaf mae nifer wedi sôn am eu siom fod y drafodaeth ar blatfformau cymdeithasol ynglŷn â rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi troi’n annifyr ar adegau.
A chyda’r maes eleni o fewn ffiniau Sir Gwynedd mae Cabinet y Cyngor bellach wedi ymuno yn y sgwrs, gan ddatgan eu bod yn bleidiol i’r rheol Gymraeg ond wedi eu siomi o “weld tôn y drafodaeth”.
Dywedodd y cynghorydd Beca Brown, sy'n gyfrifol am bortffolio addysg Cyngor Gwynedd bod artistiaid fel Sage Todz, Eädyth, Izzy Rabey a Dionne Bennett yn “boblogaidd ac yn mynd â’r Gymraeg a Chymreictod i glustiau cynulleidfa newydd ac yn llysgenhadon arbennig”.
Wedi adroddiadau bod rhai o’r artistiaid yma wedi derbyn negeseuon a sylwadau hiliol yn dilyn y sylw gafodd y pwnc, mae Beca Brown yn awyddus i bwysleisio y gall y trafod, o droi’n gas, wneud niwed i’r Eisteddfod ac i’r Gymraeg.
"Mae sylwadau'n gallu brifo'n de a beth oeddwn i'n deimlo oedd bod y drafodaeth 'ma ar y cyfrynga' cymdeithasol wedi gweithredu fel ffenest siop nid yn unig i'r Eisteddfod ond hefyd i'r iaith Gymraeg ac i Gymreictod,” meddai.
“A taswn i'n berson oedd yn hwyrach yn meddwl dod i'r Steddfod am y tro cynta, meddwl gyrru' mhlentyn i ysgol Gymraeg beth bynnag ydy o ac yn gweld y drafodaeth yna, ydy hwnna'n denu pobol at y Gymraeg, at yr Eisteddfod, at Gymreictdod, dwi'm yn gwybod os ydy o'n de.
“Tra nad ydym am weld llacio’r rheol Gymraeg ar y maes, rydym yn cefnogi trafodaethau parchus a syniadau newydd gan ystod o bobl, fel bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ŵyl gyfoes, groesawgar ac eang ei hapêl.”
‘Gwrthdaro’
Yn hanesyddol meddai Dr Mari Wiliam, roedd yna bryder ymysg y Cymry Cymraeg fod unrhyw ddatblygiad technolegol adloniant fel y “weiarles a’r teledu” yn mynd i fod yn ergyd i’r iaith.
“Y pryder mawr sydd wedi bod gan Genedlaetholwyr yng Nghymru ydi fod y Gymraeg yn mynd i gael ei difodi gan y dechnoleg newydd.”
Mae hi’n dweud mai un peth “boddhaus” o’r trafodaethau diweddar ydi “fod y cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu rhyw naratif yn Gymraeg”.
Mae ‘na wastad wrthdaro diwylliannol wedi bod yma yng Nghymru yn ôl Dr Wiliam, ond bod hynny wedi dod yn fwy amlwg yn y blynyddoedd diwethaf yn bennaf oherwydd defnydd pobol o’r cyfryngau cymdeithasol.
“Yn hanesyddol, os oeddach chi isio mynegi barn gyhoeddus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu’r ugeinfed ganrif, mi fasa chi’n ‘sgwennu i’ch cynghorydd lleol, neu i’r papur newydd lleol.”
“Dwi’n meddwl mai’r papur newydd ydi’r pararel agosaf i’r cyfryngau cymdeithasol.”
Mae Dr Mari Wiliam yn dweud y byddai pobol yn ystod 50au’r ganrif ddwetha o bosib yn “pendroni dros eu cornflakes” am ryw bwnc nad oedden nhw’n hapus yn ei gylch, ac yna’n penderfynu “sgwennu i’r papur newydd i gwyno.”
“Ond wrth gwrs pan mae rhywun yn sgwennu mewn llawysgrifen, ac angen postio, mae rhywun wedyn yn gorfod arafu, a meddwl,” cyn sylweddoli maes o law, meddai “nad ydy anfon y llythyr yn syniad mor dda a hynny”.
‘Clickbait’
Mae Dr Mari Wiliam yn dweud fod y platfformau cymdeithasol wedi trawsnewid y ffordd mae pobol yn mynegi barn.
“Fedrwn ni gyd chwipio’n ffonau o’n poced, ac ella o fewn 5 eiliad ’da ni wedi rhoi rhywbeth poenus i rywun arall neu wedi mynegi barn eithafol ac ella yn difaru hynny wedyn.”
Mae’r darlithydd o Lansannan yn dweud fod yna elfen o ‘ryfeloedd diwylliannol’ wedi bodoli erioed o fewn cymunedau’r Cymry Cymraeg.
“O’ na drafodaethau helaeth iawn yn ystod yr ugeinfed ganrif” gan roi engreifftiau o lythyrwyr fel Saunders Lewis a Bobi Jones “roedd y cyfathrebu yna yn gallu bod yn danllyd” meddai.
“Ond doedd o ddim o reidrwydd yn eithafol nac yn or-bersonol.”
Mae pethau’n wahanol yn oes y cyfryngau cymdeithasol, meddai: “Weithiau mae ’na trend yn datblygu lle da chi’n meddwl ‘w - dwi angen sgwennu rwbath am hyn’ er falle does ganddoch chi ddim y dyfnder gwybodaeth am y pwnc.”
Mae Dr William yn credu petae Saunders Lewis yn fyw heddiw mi fydda fo wedi bod wrth ei fodd yn lleisio barn am bynciau Eisteddfodol.
“Fo fasa un o’r bobol ’na fydda ar y cyfryngau cymdeithsol bob dydd yn dweud rhywbeth ne’i gilydd!” meddai dan chwerthin.
Roedd yna “drafodaethau iach” yn ystod 30au, 40au a 50au’r ganrif ddiwetha ymhlith “pobol y pethe” meddai Dr Wiliam.
Mae hi’n sôn am “gyflwyno’r rheol Gymraeg i’r Eisteddfod Genedlaethol” fel enghraifft.
“Roedd hynny’n gallu bod yn eitha tanllyd ar adegau, ond yn gyffredinol mi roedd hi’n drafodaeth gweddol barchus.”
Ac mae hynny yn go wahanol i ddarllen rhai sylwadau ar y gyfryngau cymdeithasol y dyddiau yma, ychwanegodd. “Mae’r elfen o barch at rhywun sydd â barn wahanol i chi, wedi mynd.”
Mae Dr Mari Wiliam yn dweud fod y berthynas rhwng y cyfryngau a sefydliadau yn gallu bod yn “broblematig” os ydy’r stori yn “anesmwyth” i’r mudiad penodol yna.
“Ond rŵan, dwi’n meddwl ella ei bod hi wedi mynd yn rhy hawdd i (fudiadau) ddeud ‘o clickbait’ ac yn y blaen.”
“Tra actually yn aml, mae’r cyfryngau yn datgelu straeon sydd yn bwysig cael trafodaeth agored amdanyn nhw.”
Yn ôl Dr Wiliam, weithiau mae’r cyfryngau prif-ffrwd yn “gwneud ffafr” efo cymdeithas drwy adlewyrchu profiadau bywyd.
“Hyd yn oed os ydio’n clickbait a fod rhywun yn adrodd ar be sydd yn y cyfryngau cymdeithasol, mae hynny yn rhan bwysig o fywyd bob dydd a phrofiade bob dydd pobol,” meddai.