Heddlu'n apelio ar ôl i blentyn ddioddef anafiadau difrifol wrth seiclo
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i fachgen 11 oed gael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd wedi gwrthdrawiad yng Nghaergybi.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ychydig ar ôl 17.00 ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar Ffordd Cyttir rhwng car a seiclwr.
Cafodd y bachgen a oedd yn seiclo ei gludo i Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, gan ambiwlans awyr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd Sgt Jason Diamond o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys Mazda lliw glas i gysylltu â ni ar unwaith.
"Roedd y Mazda yn teithio ar hyd Ffordd Cyttir tuag at Ffordd Llundain, ac roedd y seiclwr wedi dod o gyfeiriad Ffordd Tyn Pwll.
"Rydym hefyd yn gofyn am gyswllt gan unrhyw un sy'n byw ar Ffordd Cyttir neu Ffordd Tyn Pwll ac sydd â chamerâu cylch cyfyng preifat, neu unrhyw un a oedd yn y cyffiniau ac a allai fod â lluniau dashcam i gysylltu â ni."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda'u hymchwiliad i gysylltu drwy'r wefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif digwyddiad Z076411.
Llun: Google Maps