Newyddion S4C

Diffyg disgyblu Matt Hancock yn 'drwydded i dorri rheolau' medd Llafur

Evening Standard 01/06/2021
Matt Hancock
Matt Hancock

Mae gadael i Matt Hancock barhau yn ei swydd fel Ysgrifennydd Iechyd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn 'drwydded i dorri rheolau' i weinidogion eraill, medd y blaid Lafur.

Daeth yr ymgynghorydd annibynnol ar safonau gweinidogol i'r casgliad fod Mr Hancock wedi torri'r rheolau yn 'dechnegol' wedi iddo beidio datgelu fod cwmni ei chwaer wedi cael ei gymeradwyo fel contractwr i'r GIG.

Yn draddodiadol, mae torri'r cod wedi arwain at ymddiswyddiad gweinidog, yn ôl The Evening Standard.

Ond, fe ddaeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod toriad y cod yn 'fach' ac na fyddai angen i'r aelod o'r Cabinet ymddiswyddo.

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno gyda'r casgliad hwnnw ac fe ddywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet fod y disgwyliad y dylai unrhyw doriad yn y cod arwain at ymddiswyddiad yn 'anghymesur'.

Darllenwch fwy o'r manylion yma.

Llun: Number 10 (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.