Newyddion S4C

Dafydd Iwan yn derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor

11/07/2023
S4C

Mae'r canwr a'r ymgyrchydd, Dafydd Iwan wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.

Derbyniodd Mr Iwan radd er Anrhydedd heddiw am ei gyfraniad i'r Gymraeg, Diwylliant, Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yng Nghymru.

Ymunodd gyda myfyrwyr eraill mewn seremoni yn y brifysgol ddydd Mawrth.

Mae Dafydd Iwan yn llysgennad diwylliannol Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’i gân Yma o Hyd oedd un swyddogol Cymru yng Nghwpan y Byd 2022.

Mae Dafydd Iwan yn un o 11 a fydd yn derb graddau er anrhydedd gan y brifysgol eleni.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, mai seremonïau graddio yw uchafbwynt y flwyddyn academaidd.

“Rydym yn hynod o falch o gael cyfle i wobrwyo unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr iawn at fywyd cyhoeddus ac sy’n ysbrydoli graddedigion ifanc heddiw wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.