Yr academydd Dr Llŷr Roberts wedi marw tra ar wyliau yng Ngwlad Groeg
Mae Dr Llŷr Roberts, yr academydd ac Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi marw tra'r oedd ar ei wyliau yng Ngwlad Groeg.
Roedd yn 45 oed.
Roedd yn gweithio fel darlithydd mewn Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Yn wreiddiol o Lanrug, fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Brynrefail cyn astudio hanes fodern yn Rhydychen.
Aeth yn ei flaen i gwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau ei bod yn darparu cefnogaeth i deulu Dr Roberts.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: “Mae colli Llŷr yn ergyd drom i’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n Ysgrifennydd praff a gofalus am nifer o flynyddoedd, a’i wybodaeth fanwl o’n Cyfansoddiad a’r Rheolau Sefydlog yn ddiarhebol.
"Ond roedd Llŷr yn gymaint mwy nag Ysgrifennydd. Roedd o’n glust i wrando a’i gyngor wastad yn ddoeth yn gefnogol, ac yn heriol i ni fel tîm yn aml. Roedd o hefyd yn ffrind gofalus ac annwyl, yn llawn direidi, mor barod ei wên, ac yn gymaint o gefn i ni drwy bopeth.
“Roedd Llŷr ar ei orau yng nghyfarfod y Bwrdd a Chyngor yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf, yn cwestiynu, yn cefnogi ac yn sicrhau bod pob manylyn yn ei le. Dyma sut y byddwn ni’n ei gofio.
“A heddiw, mae ein calonnau ni’n torri. Mae’r golled i bawb yn enfawr, ond yn fwyaf oll i’w deulu, ac rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf atyn nhw mewn cyfnod mor anodd.”
Roedd Dr Roberts hefyd wedi gweithio yn uned wleidyddol y BBC am gyfnod, ac roedd yn gyfrannwr cyson ar y cyfryngau yng Nghymru.
Roedd ei faes ymchwil yn cynnwys busnes, cyfathrebu marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu ar-lein a Chyfathrebu Cyfrwng Cymraeg.
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed y llynedd, fe dderbyniodd wobr arbennig fel cydnabyddiaeth am ei waith yn datblygu’r e-werslyfr Marchnata cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed, Cyflwyniad i Farchnata.
Wrth ymateb i farwolaeth Mr Roberts, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor fod “staff a myfyrwyr wedi’u brawychu a’u tristau yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl Dr Llŷr Roberts.
“Ymunodd Dr Roberts â’r tîm academaidd yn gynharach eleni, ac roedd ei ymagwedd agored a chyfeillgar yn golygu ei fod wedi ennill cyfeillgarwch a pharch ei gyd-academyddion yn gyflym.
“Yn darlithio mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol, roedd Dr Roberts yn ddarlithydd poblogaidd, a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod.
“Mae'r Ysgol a'r Brifysgol yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Llŷr ar yr adeg drist hon.”
Roedd yn gyn-aelod o Gôrdydd yng Nghaerdydd, ac yn byw yn y Felinheli.