Enwi Mererid Hopwood yn Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai enw Mererid Hopwood fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer swydd yr Archdderwydd o 2024 i 2027.
Bydd ei henw yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd ar gyfer y swydd.
Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, wedi iddi ei hennill yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.
Mae hi hefyd wedi ennill y Goron a'r Fedal Ryddiaith.
Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2016 ac mae hefyd wedi ennill gwobr Tir na n-Og am un o'i nofelau plant yn 2018.
Mae hefyd yn un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams.
Yn enedigol o Gaerdydd, derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Llanhari, sydd yn nalgylch Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sef y Brifwyl gyntaf iddi fel Archdderwydd.
Mae bellach yn gweithio fel Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac hefyd yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.
Bydd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd yn gorffen yn ei rôl ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ym mis Awst.
