Guto Harri i ymuno â GB News
Mae'r newyddiadurwr, darlledwr a'r strategydd gwleidyddol Guto Harri yn ymuno â'r sianel newyddion GB News.
Bydd yn cyd-gyflwyno rhaglen newyddion a thrafod wythnosol ar y sianel pan fydd hi'n lansio.
Mae disgwyl i Mr Harri barhau i gyflwyno'r gyfres wleidyddol Y Byd yn ei Le ar S4C.
Roedd yn bennaeth cyfathrebu i Boris Johnson yn ystod ei gyfnod fel Maer Llundain ac wedi cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys The Times a The Telegraph.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Guto Harri fod GB News "yn arloesi ffordd newydd mewn newyddion a thrafodaeth deledu".
Ychwanegodd: "Yn bwysicach oll, mae'r sianel yn benderfynol i adlewyrchu yn ogystal â pharchu'r ystod o ddaliadau ei chynulleidfa ar draws y DU".
Bydd GB News yn lansio ar 13 Mehefin.
Llun: GB News