'Gêm enfawr' i Gaernarfon ond dim cefnogwyr yn bresennol

'Gêm enfawr' i Gaernarfon ond dim cefnogwyr yn bresennol
Fe fydd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn wynebu'r Drenewydd ar yr Oval brynhawn Sadwrn, yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru.
Bydd y tîm buddugol yn ennill lle yng Nghynghrair Ewropa.
Yn ôl rheolwr Caernarfon, y gêm hon yw'r bwysicaf yn hanes y clwb.
Ond, mae siom na fydd cefnogwyr yn cael bod yn bresennol i wylio'r gêm yn fyw.
Dywedodd Paul Evans, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'n gêm enfawr. Gêm bwysicaf mwy na thebyg yn hanes y clwb.
"'Da ni erioed 'di gael y fraint o chwarae yn Ewrop a chynrychioli'r Cymry yn Ewrop o'r blaen felly, bysa cael neud hynna yn wych i ni", ychwanegodd.
"Y pechod ydy wrth gwrs bod y cefnogwyr ddim yn cael mynd i'r cae i greu hwb i'r hogiau felly 'de.
"Be' sy'n siom ydy bod yr Mr Drakeford a'r llywodraeth yn edrych ar y gêm fel gêm 'grass roots', ond dydy ddim. Mae Uwch Gynghrair Cymru yn elit".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y byddwn yn ystyried symud i lefel rhybudd un ar adeg yr adolygiad tair wythnos nesaf ar ddechrau Mehefin, os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol".
Ychwanegodd y llefarydd y byddai hyn yn galluogi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mwy wedi eu trefnu, "wedi eu harwain gan y rhaglen o ddigwyddiadau peilot, sy'n digwydd ar hyn o bryd".
Bydd y gêm rhwng Caernarfon a'r Drenewydd yn cael ei darlledu ar S4C ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 12:00.