Tân wedi difrodi rhan o Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili
03/06/2023
Mae tân wedi difrodi rhan o Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili fore ddydd Sadwn.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd y tân wedi cychwyn y tu allan i'r ysgol ac wedi lledaenu i ystafell ddosbarth.
Mae un o ddosbarthiadau y plant iau a tho'r ysgol wedi cael difrod.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 9:19, cafodd y tân ei ddifdodd am tia 11:40.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i fod ar y safle.
Llun: @CAERPHILLYCBC