Newyddion S4C

Dyn ifanc lleol wedi marw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Caernarfon 

03/06/2023
S4C

Mae Newyddion S4C ar ddeall fod dyn lleol wedi marw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Caernarfon yn hwyr nos Wener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4085 rhwng Stad Ddiwydiannol Peblig a chylchfan Caeathro.

Fe gafodd y ffordd ei chau am rai oriau. 

Ond fe gafodd y ffordd ei hail-agor fore dydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.