Newyddion S4C

Côr Gospel o Alabama yn perfformio yng Nghŵyl Triban

03/06/2023
Côr Alabama

Bydd Côr Gospel o Alabama yn perfformio ar faes Eisteddfod yr Urdd Tregaron ddydd Sadwrn.

Bydd y côr, sydd wedi teithio draw o Brifysgol Birmingham, yn perfformio fwy yn yr Arddorfa am 14.15, ac am 18.00 ar Lwyfan y Cyfrwy, fel rhan o Wŷl Triban.

Dafydd Ifan fydd yn cau’r wŷl, sydd yn ei ail flwyddyn eleni.

Ymysg yr enwau eraill sydd yn ymddangos yn yr ŵyl ddydd Sadwrn mae Mellt, Meinir Gwilym, Mared, N’Famady Kouyate, Gwilym a Tara Bandito.

Ers 2019 mae’r Urdd wedi sefydlu partneriaeth gyda dinas Birmingham yn Alabama ac ailgydio yn y cyfeillgarwch rhwng Cymru ac Alabama sy’n dyddio yn ôl i 1963.

Yn ystod y cyfnod yma yn y 60au, daeth cymunedau o Gymru ynghyd i gefnogi trigolion Birmingham yn dilyn erchyllterau a therfysgaeth hawliau sifil yn y rhanbarth.

Mae'r bartneriaeth rhwng yr Urdd a Phrifysgol Birmingham Alabama yn cynnig cyfleodd i bobl ifanc o’r ddau sefydliad i ddod at ei gilydd.

Yn 2022, cafodd aelodau’r Urdd fynd ar daith arbennig i Alabama i ddathlu canmlwyddiant y sefydliad.

Mae’r côr wedi dysgu tri can gospel yn y Gymraeg ar gyfer eu ymweliad i Gymru, fydd hefyd yn cynnwys ymweliadau i’r Senedd i gwrdd a’r Prif Weinidog, Aberystwyth ac i Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.